Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siwsan

siwsan

Aethpwyd â Siwsan, y plant a minnau i swyddfa er mwyn ein holi eto gan swyddogion oedd yn awyddus i wybod sut roedden ni'n ein hadnabod ein gilydd.

Ac yno roedd cartref yr ail Siwsan - Siwsan Diek, yn wreiddiol o Borthmadog.

Yn y cyfamser, mae Siwsan Jablonski yn edrych ymlaen at gyfarfod â'r Siwsan arall.

Does dim amheuaeth na fyddai Siwsan wedi cael gadael y wlad oni bai bod ganddi basport Prydeinig.

Hwn yw'r diwrnod mawr pan fydd y ddwy Siwsan yn cyfarfod â'i gilydd am y tro cyntaf erioed.

Dyw Siwsan Diek ddim yn teithio'n aml i'r 'ochr arall', a dyw hi ddim yn gyfarwydd â chymysgu ag Iddewon.

Dywedodd yr Israeliaid mai cyfrifoldeb y Gonswliaeth Brydeinig oedd darparu masg ar gyfer Siwsan; ond yn ôl y Gonswliaeth mater i'r Israeliaid ydoedd.

Ar kibbutz Negba, mae Siwsan Jablonski wrth ei bodd â'r ddarpariaeth ar gyfer ei phlant hi.

''Dan ni'n rhannu pob math o betha,' meddai Siwsan J.

Doedd y rhan fwyaf o'r Palestiniaid ddim wedi derbyn mygydau nwy gan yr awdurdodau, ac un masg oedd gan Siwsan a'i theulu rhyngddyn nhw.

Byddai'n gwbl annoeth o dan amgylchiadau felly i gnocio ar ddrws Siwsan Diek.

Cyn diwedd y flwyddyn roedd Siwsan, wedi rhai wythnosau o wyliau ym Mhorthmadog, a rhywfaint o addysg Gymraeg i Adam a Natalie, wedi dychwelyd i Fethlehem.

Yn y diwedd mynnwyd fy mod i fy hunan yn gwagio casys Siwsan a'r plant ar y ddesg o'u blaenau.

Am dri o'r gloch fore Gwener, cyfarfu Siwsan â'i rhieni o Borthmadog yng ngwesty Olga yng Nghaerdydd.

'Dyw ysgolion y llywodraeth ddim cystal,' meddai Siwsan.

'Sut mae cyfloga yma?' oedd cwestiwn Siwsan D.

Ar ôl cael ein rhyddhau, llwyddodd Siwsan i ymlacio rywfaint am y tro cyntaf.

Roedd y Siwsan arall yn disgwyl amdanom yng nghanol y glaw wrth glwyd kibbutz Negba.

Roedd nerfau Siwsan yn rhacs; ychydig iawn o gwsg a gafodd yn ystod y rhyfel.

Fe ddaethon ni i wybod fod dwy Siwsan yn byw yn Israel.

Gyda chymorth teiliwr lleol, daethon ni o hyd i'r fflat lle'r oedd Siwsan a'i theulu'n byw yn y diwedd.

Er gwaethaf ei blinder a'i phrofiadau erchyll, cytunodd Siwsan i gymryd rhan mewn cynhadledd i'r wasg y bore canlynol, wrth i Adam a Natalie gael hwyl eithriadol yn chwarae yn yr eira.

Mae'r glaw yn pistyllio i lawr wrth i ni fynd yn y car i gasglu Siwsan Diek, Adam a Natalie.

Roedd Siwsan eisoes wedi penderfynu, er mwyn diogelwch y plant yn fwy na dim, ei bod am geisio mynd 'nôl i Borthmadog.

Yn nes ymlaen, wedi i mi a gweddill y criw fynd drwy'r rheolfa basport, sylwais fod Siwsan wedi cael ei throi yn ôl a'i hanfon i swyddfa arbennig.

Gan ddefnyddio tacsi â rhifau Palsteinaidd - a Phalestiniad wrth y llyw - fe lwyddon ni i gyrraedd y sgwâr lle'r oedd Siwsan yn byw.

Yn y cerbyd hwnnw yr oeddwn i, Siwsan a'r plant yn teithio, a bu'n rhaid i mi dreulio hydoedd mewn caban diogelwch wrth i swyddogion fy nghroesholi.

Byddai dod o hyd iddi, heb sôn am ei ffilmio, dipyn yn anos nag ydoedd yn achos Siwsan Jablonski.

Roedd hi'n anhygoel canfod fod Siwsan Pwllheli ar y kibbutz yn gweld y byd trwy lygaid Cymreig ac Iddewig tra bod Siwsan Porthmadog ym Methlehem yn gweld y byd trwy lygaid Cymreig ac Arabaidd.

Gan fod ganddi docynnau awyren, a chan ein bod ninnau'n gadael ar y dydd Iau, gwnaethpwyd trefniadau i ni gasglu Siwsan a'r plant o'u cartref yn gynnar yn y bore a'u hebrwng yn ôl i Gymru.