Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

siwt

siwt

Cofiaf i mi sylwi y bore hwnnw fod rhai o'r plant yn y dosbarth wedi eu gwisgo yn hollol yr un fath â'i gilydd - pedwar neu bump o fechgyn yn f'ymyl mewn siwt lwyd, dywyll, hynod o blaen, er yn lân, a rhai genethod mewn siwt o'r un lliw a defnydd, a'r un patrwm â'i gilydd yn union, gyda ffedogau gwynion, llaes a dwy lythyren wedi eu stampio arnynt.

Gari Williams yn cymryd ei le ar y llwyfan, yn gwisgo siwt, lawn, digon cyffredin, ond cymaint gwell nag iddo ymddangos fel boi sgowt!

"Glywsoch chi?" meddai bachgen y siwt lwyd.

Gwisgais fy ffrog siyrsi winau - rhag ofn i Emli feddwl mai dim ond y siwt a wisgwn i ar y prom oedd yn ffit i'w gweld - a chardigan o liw mwstard, a phar newydd o sanau neilon.

Dywedodd fy mam wrthyf drannoeth fod rhyw dderyn wedi dweud wrthi am y digwyddiad.Euthum i ddawns yn y Cei unwaith.Roedd fy ffrind, Twm Fowey House (y Dr Thomas Gwilym Jones, un o benaethiaid Lever Brothers Port Sunlight wedyn) yn fy nghynorthwyo i smyglo fy siwt orau o'r ty wrth i mi ei thaflu o ffenestr y garet i lawr ato ac yntau yn sefyll ar yr allt wrth dalcen y ty.

Penderfynodd y byddai'n gwisgo ei siwt orau am fod y digwyddiad yn un mor arbennig.

"Tynnwch y siwt wlyb 'na ar unwaith," meddai, gan daflu'r gŵn ati.

Siwt frethyn lliw siarcol, tei streipiog, dim sbienddrych, ac yn edrych fel pysgodyn allan o ddŵr yn y lle hwn.

Gall dadlau fel hyn am bris siwt neu soffa godi cywilydd arnoch chi weithiau, os yr ydych yn digwydd bod efo fo, ond dros y blynyddoedd arbedodd bunnoedd i mi wrth fargeinio drosof.

Toc cyn i Therosina gyrraedd, roedd dyn mewn siwt wen wedi gosod cyrn clustiau trwm am ei ben ac wedi gwasgu botymau ar banel bach yng nghornel yr ystafell.

Gan hynoted oedd ei oslef a chan mor arbennig oedd ei arddull, ac, ar un adeg, gan mor unffurf oedd ei wisg - crys coch a siwmper goch (ni hoffai siwt) - a chan ei fod mor gaeth i'w bibell a'i sbectol, yr oedd yn wrthrych parod i'r parodi%wr, er gofid mawr i'w fam, ac, weithiau, iddo ef ei hun.

Roedd ei siwt dipyn bach yn rhy fawr iddo nawr oherwydd roedd ychydig o flynyddoedd wedi mynd heibio er y tro diwethaf y gwisgodd hi.

Viyella oedd y siwt hefyd.

Daeth i gof Mali yr achlysur pan welodd Dilys yn dda i ganmol siwt goch a wisgai Mali gan ddweud ei bod yn rhoi lliw iddi; amheuai Mali mai awgrym oedd hynny fod ei chroen yn ddiliw heb gymorth y siwt.

y cwbl a wyddent oedd ei fod yn gwisgo siwt drwy 'r wythnos a hen ddillad ar y sul, yn hollol i 'r gwrthwyneb i 'r mwyafrif o drigolion y pentref.

Ac felly y dois i ddeall mai siwt y wyrcws oedd y siwt lwyd unffurf a welswn yn yr ysgol.

Yn aml, mewn llythyr, deuai cais i archebu siwt o ddillad gyda Dafydd Owen, teiliwr y Nyfer.

Enillai ddigon o gyflog i fforddio siwt trowsus hir, i brynu ffon, i fynd ar ei wyliau i Landrindod unwaith o leiaf, i gael ychydig o ddannedd gosod ac i ddechrau smocio.

Daeth llefnyn mewn siwt ddu a chrys gwyn ag anferth o fwydlen iddo ac yna sefyll fel ystyllen wrth ei ochr.

Efallai i Aheia weld llygaid Jeroboam ar y siwt.

'Roedd wedi ei gwisgo mewn siwt felfed, glas tywyll o'i gwaith ei hun, gan mai teilwres oedd, yn dysgu'r grefft gan ei thad.

'Tasach chi heb fod mor dwp â syrthio yn y siwt haearn 'na, fasa neb ddim callach.

Y bore yma, yn y - y siwt garchar yna, mae'n anodd dweud mai merch ydach chi.' Cuchiodd Lisa yn ddig am iddo siarad mor blaen.

Yn lle ei siwt gragen amlbwrpas, gwisgai rywfath o grysbas lledr cryf a llodrau gwlanen pigog.

Fe allem gael sioc rywbryd o sylweddoli fod yna neges oddi wrth Dduw yn dod o siwt annisgwyl o fodern.

Fe wisgai o ei siwt gapel gyda'r nos a'i siwt noson waith yn ystod y dydd.

Ymhen dau wanwyn cafodd siwt arian newydd i'w ddarparu am ei siwrne fawr.

A beth wnaeth e, er mwyn dangos nad yw dillad yn cyfri dim, ond rhwygo'r siwt yn y fan a'r lle.

"Na," meddai gn godi'r siwt fach neilon oedd yn swp gwlyb ar y llawr, "dydw i ddim yn mynd i'ch curo chi er eich bod chi'n llawn haeddu hynny, ac fe fyddwn i wrth y modd yn crasu'ch pen ôl chi."

Meddai Mam "Nabod dy Dad, mae wedi rhoi siwt eto i ryw gymeriad anffortunus fu'n disgwyl amdano wrth gatiau'r Doc yn un o borthladdoedd De Cymru." (Hynny ar ôl i hwnnw ddarllen colofn Movements of Local Vessels yn y Western Mail.) Byddai wrth ei fodd yn teithio gyda ni yn y Mini bach, y wlad, fel y môr, yn ysbrydiaeth iddo.

Gyda'i gwallt melyn, trefnus, ei gwisg o siwt las tywyll a'r 'brooch' ac yna ffrog las ysgafnach, y briefcase.

Gadwch i mi drio cofio." Archwiliai ei llygaid fi o'm corun i'w sawdl, fel ffermwr mewn ffair yn pwyso a mesur priodoleddau caseg yr oedd a'i lygaid arni; a minnau'n falch fy mod wedi gwisgo fy siwt newydd, ac yn edrych yn weddol drwsiadus.

Roedd siwt ddu fel pregethwr cynorthwyol amdano ac ar ben hynny crwyn mwncis du a gwyn.

Plygodd i gusanu'r merched, gan longyfarch Glenys ar ei siwt, ac Elsbeth ar ei bathodyn Band of Hope.

"Os oes ar rywun eisio cweir, mi ro i hi iddo fo." Trois fy mhen i edrych pwy oedd wedi f'achub, ac er syndod mawr i mi, gwelais mai un o fechgyn y siwt lwyd oedd ef.

Heno, roedd hi am gadw at naws yr hen Ddiolchgarwch drwy wisgo ei dillad newydd, siwt herringbone drom a blows Viyella blaen.