Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sleifio

sleifio

Dyna pam roedd o'n sleifio i weld y fuwch dan sylw bob awr o'r dydd a'r nos ac yn sbecian trwy hollt yn nrws y beudy rhag rhishio'r fuwch.

Nid oedd yn anodd i hogiau'r Nant sleifio adre gan fod Llwybr y Garreg Wen y tu ôl i domennydd uchel o rwbel, ac os am ddal troseddwr byddai'n rhaid i stiward fynd i ben un ohonynt i gadw gwyliadwriaeth.

Mi fydda i'n sleifio heibio'i gawell o am fod yn gas gen i ei weld o'n edrych i lawr ei hen drwyn hir main arna'i efo'r llygaid melyn lloerig yna.

Teimlwn yn flin a diymadferth, a daeth awydd arnaf i sleifio allan o olwg pawb.

Edrychodd hithau dros ei hysgwydd arno cyn sleifio allan drwy'r drws.

Yr oeddem yn y drws yn barod i gychwyn yn y car modur a dyna dwmpath o rywbeth du yn sleifio i mewn i'r porth.

Wedyn sleifio'n ôl i lawr.

Mi fum yn crwydro yma ac acw ar hyd yr ynys, gan feddwl fod Twm Dafis rywfodd wedi fy ngweld a bod y lladron wedi sleifio drwy un o'r ffenestri i guddio allan yn rhywle.

Fel pe bai hynny'n arwydd bod cyfnod wedi dod i ben, fe fu'n rhaid i Brydain, ar ôl ei hymdrechion ofer i sleifio allan o bob cytundeb rhyngwladol, fynd i ryfel.

'Roedd Cellan Ddu wedi sleifio allan o geg yr ogof ac yn gwthio'i ffordd yn llechwraidd o lech i lwyn tua Nant Gwynant.

Roedd Mathew ar fin mentro i lawr a sleifio allan pan ddaeth cnoc ar y drws.