Gan fod llawer o'r offer a ddefnyddir i wneud arolwg tanfor ar hyn o bryd yn ddigon anfoddhaol, gellir dweud fod archaeoleg tanddwr mewn stad o 'anwybodaeth soffistigedig' - soffistigedig gan fod llawer o'r archaeolegwyr modern yn bustachu gyda phroblemau ei lleihau.
CYNIGION: Ceir cryn bosibiliadau ar gyfer parhau i ehangu defnydd cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd, yn ogystal â thargedu adnoddau'n fwy soffistigedig tuag at y grwpiau a'r unigolion hynny a fyddai'n gwneud y defnydd gorau arno.
Er iddo gael awyrennau Mig a'r holl arfau soffistigedig eraill gan Rwsia, roedd y gwrthryfelwyr yn well ymladdwyr o lawer yn y mynyddoedd.
Dangosodd Cathyr yr holl offer soffistigedig oedd ar y dec i Anna, yn glociau mawr cyflymder, cwmpawdau electronig a'r offer hunan-lywio, y cyfan yn sgleinio fel sylltau.
Gallai'r tyddynnwr o Slaf ymdeimlo â natur byw a bod yr un mor ddwfn â rhyw Voltaire soffistigedig.
Treuliai ef ei bnawniau Sadwrn yng nghwmni ei fyddin breifat o gyfeillion, un ai ar deras y stadiwm bêl-droed yn cega ei dîm a gollai yn ddieithriad, neu ar y prom yn pwmpio pres i beiriannau soffistigedig y parlyrau adloniant.
'Well gen i bethau mwy soffistigedig.' 'Doeddet ti ddim felly ers talwm.'
Er gwaethaf cyntefigrwydd eu harfau ac offer soffistigedig milwyr Therosina, roedd y Madriaid yn ymladd yn eu cynefin ac yn gwybod sut i'w ddefnyddio i'w mantais Serch hynny, roedd colledion y llwyth yn enbydus ac ni roddwyd unrhyw gymorth i'r rheini a anafwyd.
Pam dibynnu ar gynnyrch ein technoleg hynod soffistigedig i ddod â myfyrwyr wyneb yn wyneb â phroblemau y rhai sydd heb y dechnoleg honno'?
Yn Ffrainc y cafwyd y Chwyldroadwyr mwyaf eithafol, yr Adweithwyr mwyaf 'styfnig, a'r Cymedrolwyr mwyaf soffistigedig.
Mae'r Adran wedi rhoi cychwyn pendant ar ddefnyddio Technoleg Wybodaeth, gan feddu ar y sustem fwyaf soffistigedig a chynhwysfawr o blith holl adrannau'r Awdurdod.
Cylchgrawn ysbeidiol i hipis soffistigedig.
Gwta awr a hanner y tu draw i frys soffistigedig Dubai mae Fujairah yn ardal boblogaidd gydag ymwelwyr o Ddubai ei hun ac - yn fwy aml y dyddiau yma - o dramor hefyd.