Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sofietaidd

sofietaidd

'Esgusodwch fi, Mister Arlywydd,' meddai un arall o'r cynorthwywyr dan ei anadl, 'ond Mrs Thatcher yw'r ddynes hon, ac nid Mrs Gandhi.' Fe wn i hynny'n iawn,' meddai Brezhnev yn ddiamynedd, 'ond Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi yw'r geiriau sy wedi eu sgrifennu ar y darn papur yma o'm blaen i.' Mae'r stori yn ddameg berffaith o'r hyn y mae'r bobl yn ei farnu a aeth o'i le yn hanes yr Undeb Sofietaidd.

Dywedodd hefyd fod y ddirprwyaeth yn cael mynd i Rwmania am fod yr Undeb Sofietaidd wedi caniata/ u hynny yn gyfnewid am ganiatâd gan Brydain i gomisiwn Sofietaidd ddod i'r Eidal.

Aeth Algis Geniusas â ni i fynwent uwchlaw'r hen ddinas yn Vilnius, heibio i'r tai ble'r oedd cŵn bach y drefn gomiwnyddol wedi arfer byw, i fyny y tu hwnt i'r fynwent swyddogol lle'r oedd pwysigion y sustem Sofietaidd yn gorwedd dan eu marmor trwm, draw i fryncyn bychan lle'r oedd cyrff y gwladgarwyr i gyd.

Sofietaidd yn ras yn y gofod hefyd.

Er bod yr harbwr yn llawn o longau masnach yn chwifio baneri morthwyl-a-chryman yr Undeb Sofietaidd, roedd America yn gwahardd unrhyw fasnach rhyngddi a Chuba, ac roedd yna brinder pob math o bethau.

Yr ymateb swyddogol i'r newidiadau yn Nwyrain Ewrop oedd bod y gomiwnyddiaeth Sofietaidd wastad wedi gwneud camgymeriadau yr oedd y Cubaniaid wedi eu hosgoi.

Yr oedd hynny'n fwy trawiadol o'i gyferbynu â'r hyn a oedd i ddigwydd cyn bo hir yn yr Undeb Sofietaidd ac yng ngwledydd Dwyrain Ewrob.

Brandenburg - beddau'n cael eu dinistrio a cherrig beddau'n cael eu handwyo mewn nifer o fynwentydd milwrol Iddewig a Sofietaidd.

Am eu bod ar wasgar yn Iraq, Iran, Twrci, Syria a'r Undeb Sofietaidd, does neb yn siwr beth yw eu nifer.

'Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi,' meddai yn ei ffordd araf, drymaidd arferol.

Roedd Mr Reagan am ddangos i'w gyd-wladwyr y gallai fargeinio â'r arweinydd Sofietaidd er mai ef oedd arlywydd y wlad y cyfeiriodd ati'n sarhaus fel y deyrnas ddieflig.

Yn fy ngwlad i, Gweriniaeth Slofacia, mae cynnyrch yn dwyn label Sofietaidd wedi cael ei werthu fel y cynnyrch gorau ers dros ddeugain mlynedd: awyrennau Iliushin, fodca Mosgo, theatr Stanislafsci a dull addysgol Makarenko.

Mae'r elyniaeth tuag ati'n cynnwys yr hen Undeb Sofietaidd yn ogystal â'r Unol Daleithiau.

Doedd neb am symud y blociau anferth o goncrit a rwystrodd y milwyr Sofietaidd rhag cipio'r adeilad bryd hynny.

Gan mai ymwelydd dros dro yn unig oeddwn i, fentrwn i ddim beirniadu cyflwyr yr economi yn yr Undeb Sofietaidd, oni bai fod y bobl hwythau'n teimlo mor ddig yn ei gylch erbyn hyn.

Clywsom fod un ystordy yn Havana yn llawn o antifreeze ac erydr eira o'r Undeb Sofietaidd!

Er bod y rhan fwyaf o'r rhubanau wedi eu cynhyrchu yn y Taleithiau Unedig, 'roedd rhai yn dod o Japan, Gorllewin, yr Almaen, Seland Newydd, Prydain, yr Undeb Sofietaidd, Guatamala, Periw, Tanzania, Canada a'r Iseldiroedd.

Doedd gweddill y cymorth a ddeuai o'r Undeb Sofietaidd - prisiau ffafriol am siwgr yn arbennig - ddim yn ddigon i greu economi ffyniannus.

'Os gall hwnnw ddadfeilio comiwnyddiaeth drwy'r Undeb Sofietaidd, fe ddylai fod yn bosib i ni wneud yr un peth i Beronistiaeth yn y wlad hon,' meddai Menem.

Fel pe bai wedi ei ryddhau am ychydig o hualau'r drefn Sofietaidd byddai Mr Gorbachev yn gwneud yn fawr o'i gyfle i draethu gerbron torf enfawr o ohebwyr.

Ond brwydr amhosibl bron yw ceisio llenwi bwlch y cymorth a gollwyd o'r Undeb Sofietaidd, a does dim amheuaeth fod yna brinder bwyd yng Nghuba erbyn hyn.

Fe gefais yr argraff fod pawb, gan gynnwys Fidel Castro ei hun, yn diodde'r ddefod yn hytrach na mynegi cariad at yr Undeb Sofietaidd.

Gwyliau i wirioneddol ymglywed â hanes ar gerdded hyd lwybrau yr hen 'ffordd sidan' fu'r egwyl yn Uzbekistan, a gwyliau i synhwyro y bydd hi a'r gweriniaethau cyfagos yng Nghanolbarth Asia yn dod gwygwy i'n sylw cyn y bydd y chwalfa Sofietaidd yn dirwyn i ben.

Roedd band yn canu'r anthem Rwsiaidd allan o diwn ac yna traddododd swyddog Sofietaidd araith hir undonog nad oedd neb yn ei deall.

Fel y noson wefreiddiol pan gyfarfu Dmitri Hvorostovsky o'r Undeb Sofietaidd fawr a Bryn Terfel o Gymru fach ym mrwydr y ddau gawr o faritôn yn 1989.

Nid tasg syml serch hynny yw diogelu traddodiadau, meithrin hunaniaeth, meithrin perthynas effeithiol efo gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain a sicrhau ffyniant economaidd wrth ddiosg yr hualau Sofietaidd.

Felly, dyma Brezhnev yn rhoi cynnig arall arni, 'Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi,' meddai eto, yr eildro.

Roedd i'r gyfundrefn Sofietaidd rhyw lun o sadrwydd ac roedd yr hanfodion ar gael i hwyluso hedfan a theithio ledled yr ymerodraeth.