Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sofraniaeth

sofraniaeth

Trwy ymddiried yn sofraniaeth ei reswm gallai dyn ddarganfod rhyddid yn ei feistrolaeth tros bwerau Natur.

Er gwaethaf llwyddiant etholiadol y Bloc, ni all plaid ffederal ddod â sofraniaeth i Que/ bec yn uniongyrchol, dim ond y senedd yn ninas Que/ bec gwþr busnes o Dwrci ac Iran eisoes yn y wlad yn elwa ar gysylltiadau oesol â'r hen ffordd sidan, ac yn awr yn sugno i'w côl fasnach oedd gynt dan reolaeth ganolog Moscow.

Nhw yw'r garfan ddallaf yn y byd: gwaeddant yn groch ynglŷn âu sofraniaeth eu hunain ac ar yr un pryd ei naca/ u i bawb o bobl y byd.

Gweld y Gymuned Ewropeaidd yn magu peth sofraniaeth y mae'r Almaenwyr.

Mae cynllun Airbus yn brawf digamsyniol fod y drefn newydd honno, fel sofraniaeth Ewrop, yn cael ei harddel ar lan y Rhein, ac o ystyried geiriau Jaques Chirac, ar lan y Seine hefyd.

Bu'r Almaen yn fodlon diarddel sofraniaeth y Deutschmark i hybu'r Ewro, ond mae'r gair 'ffederaliaeth' yn peri pryder yn Ffrainc.

Rhoddwyd cefnogaeth ysgubol i'r Bloc que/ be/ cois gan gyfran helaeth o boblogaeth Que/ bec gan wybod mai nod gwleidyddol y Bloc yw sofraniaeth i Que/ bec.

Yr hyn a hawliai'r Blaid i Gymru mewn gwirionedd oedd sofraniaeth, sofraniaeth yn yr ystyr fod gan y genedl fel person moesol yr hawl i benderfynu a oedd hi am ryfela yn erbyn cenhedloedd a gwledydd eraill ai peidio, a bod ganddi yr hawl ar fywydau a chydwybodau ei meibion a'i merched yn y mater hwn.

Nid yw'n dilyn o angenrhaid fod pawb a bleidleisiodd i'r Bloc am weld sofraniaeth, ar hyn o bryd o leiaf.

Cyd-ddibynnol yw cenhedloedd y ddynoliaeth, a syniad diffrwyth yw annibyniaeth, a elwir weithiau yn sofraniaeth absoliwt neu ddiamod.

Hanfod Peronistiaeth oedd iawnder cymdeithasol, annibyniaeth economaidd, a sofraniaeth wleidyddol i'r wlad; mewn geiriau eraill, math o sosialaeth genedlaethol.

Mewn trefn wir gyd-genedlaethol ni rennid y byd rhwng ychydig o wladwriaethau ymerodrol a militaraidd; fe'i seilid ar gannoedd o gymdeithasau cenedlaethol a ildiai eu sofraniaeth i drefn fyd-eang.