Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

somalia

somalia

Ar waetha'r penawdau, nid `Ethiopia newydd' oedd Somalia.

Does dim dadl na fu'r holl luniau a dynnwyd o'r newyn yn Somalia yn gyfrifol am achub bywyd miloedd o'i phobl.

Doedd gen i ddim amheuaeth o'r funud honno nad oedd bod yn Somalia i baratoi yr adroddiadau cynta' yn Gymraeg yn ddigon ynddo'i hun.

Sylweddoli mai gorfod brwydro yn erbyn amgylchiadau a rhagfarnau fel hyn yr oedd gwirfoddolwr fel Paul, a oedd yn Somalia am chwe mis cyn dechrau ar gwrs gradd yn mhrifysgol Lerpwl.

Yn y cyfamser, fel y bu ers degawd a mwy, roedd miliynau o hil y caethweision yn marw o newyn ar wastadeddau sychion Eritrea a Somalia.

Fe gododd hen ddadl arall ei phen yn Somalia - lle bydd un garfan yn cyhuddo gohebwyr o ymhyfrydu mewn dangos lluniau o ddioddefaint a'r llall yn wfftio'r syniad fod rhaid amddiffyn y gwylwyr rhag ambell i wirionedd yn enw chwaeth.

Y tro diwethaf, bu'n rhaid cadw trefn drwy ddefnyddio tanc a gipiwyd gan Fudiad Cenedlaethol Somalia oddi wrth fyddin y wlad honno.

Roeddwn i yn Somalia am yr un rheswm ac ar yr un perwyl â phob gohebydd arall - i chwilio am straeon da mewn gwlad a oedd fel pe bai hi'n graddol gyflawni hunanladdiad.

Y gred ymhlith nifer o lwythau Somalia yw ei bod hi'n well i'r fam gael byw, am y gall hi feichiogi eto.

Onid yr ateb amlwg yw i'r holl bobl yma ddychwelyd i'w cartrefi yn Somalia?

Amhosibl yw anwybyddu, i enwi ond ychydig, y sychder a'r rhyfeloedd yn Eritrea, Ethiopia, Swdan a Somalia; trychinebau Bopal, yr Exon Valdes a'r Braer, dylanwad damweiniau Chernobyl a Three Mile Island, y twll yn yr haenen Osôn, coedwigoedd diflanedig Brasil a Bafaria, llifogydd Bangladesh ac felly ymlaen.

Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.

Wnaed y nesa' peth i ddim i liniaru'r newyn yn Somalia, nes ei fod yn haeddu cael ei alw'n newyn gyda'r gwaetha' yn hanes dyn; doedd gan newyn a haeddai ei alw'r gwaetha' yn Nwyrain Affrica ddim o'r un dynfa, mae'n amlwg.

Yn sicr nid gwaith newyddiadurwyr oedd paratoi adroddiadau a fyddai'n annog pobl i gyfrannu'n helaeth tuag at y gwaith yn Somalia.

Roedd Siad Barre eisoes wedi difa'r hen drefn o lywodraeth yn Somalia, drwy danseilio grym yr hynafgwyr ymhob llwyth - a phan ddiflannodd yr unben, fe adawodd ar ei ôl wlad ar chwâl.

Er bod y prysurdeb yn tarfu ar eu gwaith, roedd y gwirfoddolwyr o Somalia wrth eu bodd.

Ond roedd Somalia'n wahanol ac yn fwy arswydus am mai rhyfel cartref oedd prif achos y diodde'.