Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sonedau

sonedau

Ceir toriad effeithiol drachefn yn y goferu rhwng yr wythawd a'r chwechawd, ac y mae cynghanedd sain yn llinell gynta'r chechawd, yn nodweddiadol o'r math o dyndra persain a geir mewn llawer o'r sonedau hyn:

Craff a gofalus yr arddangosodd y beirniad hwn, sut bynnag, mai yn y gyfres ryfedd hon o sonedau 'y ceir y mynegiad mwyaf trwyadl a brawychus yn Gymraeg o thema'r briodas rhwng serch ac angau.'

Gan yr Athro Alun Llywelyn Williams (heblaw am draethawd Mrs Hughes ac un ysgrif yr un gan Syr Thomas Parry Williams a Dr Pennar Davies) y cafwyd yr ymdriniaeth fwyfaf gofalus o 'Sonedau y Nos'.

Yr ydym yn gytun bellach mai yn y dilyniant 'Sonedau y Nos' y ceir ganddo ei gyfraniad mwyaf nodedig.

Rhagymadroddais yn ddigon talog gynnau drwy led awgrymu mai bardd eilradd ydoedd, a dyna rywsut y farn gytun mwyach, ac eto, mewn rhai o'r sonedau hyn (VI, VII, XVI, XXIV, XXXI, XLII, XLIII) y mae'n dweud rhywbeth o bwys mawr mewn llenyddiaeth Gymraeg ac yn ei ddweud yn gain synhwyrus ac yn fachog fyw.