Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

soniodd

soniodd

Bellach, roeddwn yn dechrau amau y milwr yn stesion Corwen y diwrnod cynt a ddywedodd fod digon o gantîns ar gael; soniodd o ddim am y chwarter milltir o giw a welech ymhob lle felly.

Soniodd pa mor bwysig oedd i bobl arwain eu harweinwyr.

Mynegodd Meira Roberts ei diolchgarwch i'r Rhanbarth am y gwaith arbennig a wnaed ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a soniodd fod aelodau o Ferched y Wawr ledled Cymru yn canmol yr arddangosfa.

Ni soniodd y tro hwnnw am Adar Rhiannon 'yn y perl gynteddoedd/sy'n agor ar yr hen anghofus for'.

Fe ddechreuodd drwy ddiolch i fi am helpu gyda'r holl drefniade, ond soniodd hi'r un gair am y 'wyllys.

Perchennog yr Henllys Hall oedd piau'r Fireball, y cwch y soniodd Clint amdano wrth Picsi.

Ond wrth ei danfon adref soniodd wrthi am y cariad arall oedd ganddo draw yn Ffrainc.

Soniodd amdano'i hun un dydd yn troi oddi ar y llwybr mewn coedwig yn y wlad hon ac am ei draed yn taro ar draws beth feddyliai ef oedd yn golofn anferth wedi'i chuddio yn y dail a'r coed.

Soniodd Syr Thomas Parry-Williams wrthyf un tro i gasgliad cyfoethog anghyffredin o lyfrau prin gyrraedd siop Galloway.

Soniodd lawer wrthyf am y wefr a gawsai o forio 'rownd y byd', er iddo fy ngadael mewn peth dryswch pan hysbysodd fi, 'Rydw i wedi bod ar y chwe cyfandir bellach.'

Yn wyth oed cafodd ddamwain a thorri ei glun, ond ni soniodd am y peth ar y pryd a gadawyd ef yn anabl am weddill ei oes.

'Pwy soniodd am ei throi'n ôl yn fenyw?' crechwenodd y gath, ac edrychai'r gwrachod hwythau yn blês iawn.

Soniodd un arall am ymdrechion i godi tŷ (yn lle ci) o dwll yn y ddaear.

Ac yntau heb y syniad lleiaf am beth i ysgrifennu, plannwyd yr hedyn yn ei ddychymyg pan soniodd ei wraig am ei phrofiad yn cynorthwyo i chwalu ei gartref yn Llanberis bedair blynedd ynghynt, wedi marw ei fam.

Mae'r we yn un esiampl, ac fe soniodd Iwan am enghraifft y swyddfa dreth incwm.

Ni soniodd neb wrthyf am yr un.

'Pwy soniodd am bres?

Soniodd Iwan hefyd am yr angen i ddatblygu adnoddau electronig yn Gymraeg: offer ar gyfer sganio testun Cymraeg, er enghraifft.

Soniodd Myrddin am daith fodio go ryfedd.

Er na allai warantu gwirionedd ei sylw nesaf, soniodd Rhys am wr ar dro yng ngwlad Groeg , ac yn darllen ar hysbysfwrdd yno: ....

Soniodd am ffyrdd ymarferol o atal troseddau.

Soniodd y cadeirydd am y gwaith clodwiw a wnaeth 'T.

Yn ei anerchiad i'r Gymanfa yn y Rlhyl ar y testun 'Peryglon yr Eglwys yn Wyneb Her y Byd', soniodd am y peryglon o gyfeiriad meddyleg, athroniaeth, gwleidyddiaeth ac o gyfeiriad crefydd ei hun, yn arbennig "ysbrydegiaeth a Gwyddoniaeth Gristnogol".

Soniodd lawer am y byd dyfodol; hoffai yn fawr ddamcaniaeth Dr Dick am y sefyllfa honno.

fe ddywedodd un o'r Cwrdiaid wrth'i, 'John Major promised us a hammer, where is the hammer?' Dyw'r safe haven y soniodd y Prif Weinidog amdano ddim yn bodoli...

Lloyd Thomas, Pontardawe a soniodd gyntaf am y cysylltiadau hyn.