Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sonnir

sonnir

Yn hyn o draethu sonnir am y gorseddau a gynhaliwyd gan y teyrngarwyr ymroddgar hyn, eu swyddogaeth mewn eisteddfodau lleol, taleithiol a chenedlaethol, a'u rhan yn neffroad diwylliannol ein cenedl ddifreintiedig.

Yr oedd parti'r "Sospan Bach" ar fin torri i lawr yn yr adran deimladwy lle sonnir am y gath yn cripo Joni Bach.

Yn y deialog ddychmygol uchod sonnir am bensaer yn nheulu fy mam.

cyflwynir dewis yr awdur o fframwaith cyffredinol ar gyfer disgrifio'r Gymraeg, ond cyn mynd at hwnnw, sonnir ychydig am rai o ieithyddion America ac yn eu plith, Noam Chomsky, awdur y system ramadegol a elwir Gramadeg Trawsffurfiol Cenhedol.

Yn ail, yn y rhagymadrodd, sonnir am y ddwy gyfrol bwysig a gyhoeddodd.

Am y clod hunanol a enillai Geraint mewn twrnameintiau y sonnir ar derfyn adran gyntaf y 'rhamant' ac wrth gyfeirio at ysblander ei lys yn yr ail adran, ond ar ddiwedd y chwedl y mae Geraint yn wir lywodraethwr ac yn rhannu'r clod â'i wraig.

Defnyddiwyd Y Gododdin , Aneirin, yn sail i'r bryddest, a sonnir ynddi am y ddwy genhedlaeth a aeth i ryfel, cenhedlaeth y Rhyfel Mawr a chenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd.

Sonnir am feddyg a oedd yn gwneud llawer iawn o arian wrth wneud tonsilectomiau di-rif o dan yr amodau 'tâl am wasanaeth' arferol.

Ni sonnir amdano yn chwedl Culhwch ac Olwen ac ym Mrut Sieffre o Fynwy yr ymddengys gyntaf yng nghymeriad y bradwr a dwyllodd Arthur gan ddwyn dinistr ar y deyrnas.

Daeth Ysbrydegaeth, er enghraifft, yn faes i'w ystyried o ddifrif; y mae cyfarfodydd se/ ance mewn bri; sonnir yn aml am poltergeist (gair Almaeneg yn golygu 'ysbryd swnllyd'); cynhelir gwasanaethau yn eglwysi'r Ysbrydegwyr; a cheir galw cyson am wasanaeth gwþr megis Y Parch.

Defnyddiwyd Y Gododdin, Aneirin, yn sail i'r bryddest, a sonnir ynddi am y ddwy genhedlaeth a aeth i ryfel, cenhedlaeth y Rhyfel Mawr a chenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd.

Sonnir am y Llywelyn hwn yn fynych yn y cofnodion cyfoes, ac yn ol y llyfrau achau yr oedd yn arglwydd Llantriddyd a Radur.

Ynghyd â'r anterliwtiau eu hunain, mae yn y llyfr ragymadrodd hynod ddifyr lle sonnir rhyw ychydig am weithiau eraill yr anterliwtiwr a oedd yn brydydd, yn faledwr, yn ogystal â bod yn gryn gyhoeddwr barddoniaeth.

Dyma'r hyn y sonnir amdano.

Pan sonnir yma am language education, deallwn mai addysg Gymraeg a olygir, sef

a chael fan hyn fan draw wersi a dadleuon a chyfarwyddiadau gan ŵr mor wahanol â William Erbery y Ceisiwr a Peter Sterry a fuasai yn gaplan i Oliver Cromwell ei hun: sonnir am berthynas Llwyd ac Erbery ym Mhennod V ac am berthynas Llwyd a Sterry ym Mhennod VI.

Sonnir am broblemau llygredd a sbwriel y môr a phwysigrwydd diogelu culfor mor unigryw, oherwydd yn sicr rhaid cyflwyno problemau'r Ynys i'r cyhoedd, yn ogystal â'i phrydferthwch.

Fel 'undeb â Christ' y dehonglir y cyfrannu hwn yn nhraddodiad y Gorllewin tra sonnir am theosis neu 'ddwyfoli' yn nhraddodiad y Dwyrain.

Mae'n wir y sonnir am dyrfa o filwyr, am gefnogaeth gref y chwarelwyr, ac am yr awyrgylch gynhyrfus yn gyffredinol.

Yr ydym yn deall yn burion beth yn hollol a feddylir pan sonnir am fardd o'r radd flaenaf: cyfeirio yr ydym at unigolion cwbl unigryw megis Goethe neu Ddafydd ap Gwilym.