Nid oedd yr holl bapurau da-da a phecynnau sigarennau'n synnu dim arno, nac ychwiath y sosej rôl wedi hanner ei chnoi oedd wedi ei gwthio i lawr ochr y sêt hanner ffordd i lawr y bws ar yr ochr chwith.
Erbyn iddynt fwyta eu sosej a'u sglodion a'u hufen iâ bob tamaid a mynd i'r lle chwech efo Owain ac i'r ystafell newid clytiau efo Guto, roedd awr a hanner wedi mynd heibio er pan adawsant y car, ac yr oedd Carol ar bigau'r drain yn poeni am Emyr ar ei ben ei hun yn tŷ yn pryderu amdanynt hwythau.