Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

spargo

spargo

'Roedd o'n beth digon amlwg na fuasai neb yn disgwyl i'r Beibil fod yn siarad, er y byddai y bobol oedd yn hwnnw yn gorfod siarad ar bnawn Sul pan fyddai yna holi'r plant yn yr ysgol þ "Be ddeudodd Samiwel bach wrth Dduw 'y mhlant i?" 'Roedd pobol mewn oed yn sôn bod yna bethau digon difyr fel cerdded drwy'r mwd a chwffio efo llewod yn Nhaith y Pererin, ond 'doedd dim dichon cael hyd iddyn nhw fel y medrech chi gael hyd i Dôn y Botel neu Spargo'r Felin yn Nedw.