Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sri

sri

Yn Matara mae Lloegr wedi sgorio 146 am ddwy wiced yn eu batiad cyntaf yn erbyn Tîm Llywydd Bwrdd Criced Sri Lanka.

Wrth wthio'n ffordd drwy'r swyddogion ac eistedd i lawr yn y neuadd o flaen Heng Samrin, fe ddaeth hi'n amlwg nad oedden ni'n twyllo neb, achos dirprwyaeth o Sri Lanka oedd y bobl o flaen ac wrth ochr yr Arlywydd.

Ar ôl treulio'r gaeaf yn Sri Lanka mae troellwr Morgannwg a Lloegr, Robert Croft, wedi dychwelyd i hinsawdd llai trofannol Gerddi Sophia.

Mae cyn-gapten Morgannwg, Alan Jones, yn Sri Lanka a wedi bod yn dilyn y gyfres.

Fel y bu Cymru'r Byd a'r Post Cyntaf yn ddarogan ers wythnos mae Robert Croft yn ôl yng ngharfan griced Lloegr ar gyfer y daith i Sri Lanka yn y flwyddyn newydd.

Mae Sri Lanka, felly, wedi ennill y ddwy gêm gynta a bydd y drydedd - a gêm ola'r daith yn dechrau yn Colombo yfory.

'O'dd e'n boethach na dim rwy i wedi weld a mae'n anodd ca'l batwyr Sri Lanka mâs yn enwedig ar lain fel hwn.

Mae'r prawf cynta rhwng cricedwyr Sri Lanka a Lloegr wedi dechrau y bore yma yn Galle a mae pethau'n argoeli'n dda i'r tîm cartre ar hyn o bryd.

Graeme Thorpe fydd capten tîm criced Lloegr yn y gyfres o gemau un-dydd yn Sri Lanka fydd yn dechrau ddydd Gwener.

Bydd y gyfres o gemau criced undydd rhwng Lloegr a Sri Lanka yn dechrau ddydd Gwener.

'Mae Sri Lanka wedi batio'n arbennig o dda ond ni wedi cadw mewn yn y gêm, a gobeithio, gyda'r bêl newydd bore 'fory, y medrwn ni gael wiced neu ddwy yn gynnar.

Erbyn i'r chwarae orffen ddiwedd y dydd yr oedd Sri Lanka mewn dyfroedd dyfnion ar 98 am chwech.

Ond wedyn bu chwalfa yn ail fatiad Sri Lanka.

Doedd hi ddim yn brawf da i Robert Croft - un wiced ym matiad Sri Lanka, naw rhediad ym matiad cynta Lloegr a dwy yn yr ail.

Draw yn Sri Lanka, sgoriodd tîm Llywydd y Bwrdd Criced 253 yn erbyn ei batiad cynta yn erbyn Lloegr yn Matara.

Prif sgorwyr Sri Lanka oedd Tilan Samaraweera a Russel Arnold.

'Fe ges i amser caled mâs yn Sri Lanka - a thipyn bach o lwyddiant hefyd.

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod yr oedd Lloegr wedi cyrraedd 175 am bedair wiced, 66 rhediad y tu ôl i gyfanswm Sri Lanka.

Fe wnaeth bowlwyr Lloegr yn dda ar lain digon deche yn cadw Sri Lanka i 226 am chwe wiced oddi ar 50 pelawd.

Batiodd Mahela Jayawardene yn odidog yn sgorio 101 heb fod mâs i Sri Lanka oddi ar 115 pelen.

Sri Lanka alwodd yn gywir am yr eildro yn y gyfres o gemau criced yn erbyn Lloegr.

Bydd cricedwyr Cymru yn chwarae Lloegr y tymor nesa mewn gêm barataol i Loegr cyn y gemau un-dydd yn erbyn India a Sri Lanka.

Bydd y trydydd prawf - a'r ola yn y gyfres - rhwng cricedwyr Sri Lanka a Lloegr yn dechrau yfory yn Colombo.

Heblaw hynny, roedd sgorio Lloegr yn arbennig o araf, dim ond mymryn dros dair rhediad y belawd oedd eu hangen ar Sri Lanka i ennill.

Mae Bwrdd Criced De Affrica wedi cyhoeddi na fydd y batiwr agoriadol Herschelle Gibbs yn y garfan ar gyfer y daith i Sri Lanka fis nesa ar ôl i Gibbs gyfaddef ei fod o wedi derbyn cynnig o $15,000 gan ei gapten Hansi Cronje i sgorio llai nag ugain o rediadau mewn gem undydd yn India.

Llwyddodd Sri Lanka i ddial ar Loegr ddoe am eu curo nhw yn y gemau prawf.

Dewisodd Sri Lanka gau eu batiad ar ôl sgorio 475 o rediadau am bum wiced.

Mae cricedwyr Lloegr wedi colli'r gêm brawf gynta yn erbyn Sri Lanka yn Galle o fatiad a 28 o rediadau.

Ond methwyd cyflawnu hyd yn oed hynny wrth i Sri Lanka hwylio'n hamddenol i fuddugoliaeth o ddeg wiced.

Ar ôl i bedair o wicedi Sri Lanka syrthio cyn cinio rhannodd Mahela Jayawardene a Russel Arnold 142 am y bumed wiced.