Mae Abertawe yn awr wedi talu'r pwyth yn ôl gan enwi tri o chwaraewyr Stade Français - Diego Dominguez, David Auradou a Fabrice Landreau.
Yn ôl llywydd Stade Français mae'n warthus a falle bydd raid i glybiau Ffrainc osod telerau cyn cymryd rhan y flwyddyn nesaf.
Ond fe ddangosodd Castres mewn fflachie bod nhw'n dîm sy'n gallu chwarae rygbi a byddan nhw'n fwy na llond côl yn Ffrainc yn y Stade Pierre Antoine yfory.
Mae dau aelod o dîm Stade Français, wedi'r holl ddadlau, nawr wedi clywed eu bod yn cael eu henwi am chwarae brwnt honedig yn erbyn Abertawe.