Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stafell

stafell

Un stafell iddi hi a'r plant.

O'i safle saff yn un gornel o'r stafell fe wnaeth ystumiau a oedd yn groes rhwng stumiau babŵn gwyllt a dawns y blodau.

'Mae un ohonan ni'n mynd i fyny'r grisia cefn i'r hen stafell chwarae, reit, heb roi'r gola 'mlaen.

'Mae'n rhy bell o stafell y Wasg i'r seti, mae'n rhy anodd cyrraedd iddyn nhw.

Stafell druenus gydag un nodwedd arbennig - ei bod yn anhygoel o lân.

Clymodd ei braich am ei fraich o a'i arwain i'r stafell fwyta lle roedd Elsbeth ac Eurwyn yn aros amdanynt.

Nhad wedyn yn trio codi'r blancedi efo'r llaw oedd yn dal y 'long johns', ia dyna'n union ddigwyddodd, fe ddisgynnodd y 'long johns' am ei draed, a nhad yn sefyll yng nghanol y 'stafell yn union fel daeth i'r byd.

Safai Mam o flaen y cabinet yn y stafell ymolchi.

Deffrôdd gan feddwl fod rhywun yn y stafell.

Roedd gan yr hogiau lenni du bits ar eu ffenest: syniad gwych Dad oedd yn bwriadu defnyddio'u llofft yn stafell dywyll i ddatblygu lluniau rywbryd, ymhen tuag ugain mlynedd, ar ôl iddyn nhw adael cartre.

Roedd yr hen stafell chwarae'n oer fel y bedd gefn nos.

Gwnaeth stafell dywyll iddo'i hun yn y seler y tŷ lle y cedwid y glo ac y gwneid cwlm i'r roi ar y tan.

Bwriwyd yn ei erbyn gan globen o ddynes ar ei ffordd i'r neuadd ddawnsio o'r stafell fwyta, lle bu hi'n amlwg yn rhy hir gyda'r gwin.

Dyma fo'n dweud wrthyn ni wedyn, pan oedd o'n blentyn, fod gan ei dad o dŷ ar Topsham Road a bod yna un stafell yn y tŷ a bwgan ynddi, ac y byddai ei dad yn ei chadw dan glo bob amser.

Tipyn o sioc i Alice, oedd wrthi'n llyncu asbrin ac yn mwydo'i thraed yn y gawod, oedd clywed y myllio mwyaf erchyll yn dod o'r stafell wely.

Mewm un cornel o'r stafell y tu ôl i un o'r pileri, roedd mintai fechan o ddynion wedi troi'u cefnau ar y dawnswyr ac yn crynhoi eu sylw ar y dis bach du a gwyn a daflwyd gan y naill ar ôl y llall ar y bwrdd.

Nid yw'r tŷ yn bell o'r harbwr ac o'm stafell fechan gallaf weld y llongau bychain yn hwylio'n ôl ac ymlaen i Gymru.

Pan gyrhaeddais gysgod y feranda y tu allan i'r stafell bwyso, roedd yr hyfforddwr a'r perchennog yno'n barod yn aros yn gyhuddgar.

Fe fues i draw gyda Jac Sar yn i helpu fe i roi e yn y stafell gefen, yn ymyl tacle teipio Madog.

Fodd bynnag yn ôl i'r noson hwyr: nhad yn gweiddi o'r stafell gysgu - "Cysgwch hogia%.

Ond pan ddiffoddodd y golau rywdro'n ystod y gyda'r-nos roedd o yn un pen i'r stafell a hithau'n y pen arall.

"Wnaiff didoli'r papura ddim para am byth,' ychwanegodd hithau gan deimlo'i hawgrym yn pwyso'n dunelli ar y stafell.

Mae'n gwestiwn gen i a oes 'na Gymro yn y stafell hon heno nad oes ganddo berthnasau naill ai yn Awstralia, Seland Newydd neu Ganada.

Wythnos wedi i'r maswr Arwel Thomas adael ei sgidiau cicio at y pyst yn y stafell newid yn Stadiwm y Mileniwm, roedd yn amlwg ei fod eu gwisgo eto ddoe.

Yn ogystal â dimensiwn y dderbynfa, a dimensiwn y swyddfa, lle mae disgwyl i bersonau ymateb i aelodau o'r cyhoedd yn eu dewis iaith, y mae angen cydnabod fod yn y sector cyhoeddus ddimensiwn y stafell ddosbarth, lle disgwylir ymateb personol gan bersonau sy'n gweithio wyneb-yn-wyneb â'i gilydd gan ymateb yn barhaus i ddewis iaith ei gilydd.

Mae'n anlwcus chwarae cardiau mewn stafell os bydd ci yno ac ni ddylid chwarae cardiau ar fwrdd sydd â'i wyneb yn loyw.

"O, 'roedd Enoc fel beili mewn sasiwn heno." Erbyn i ni gyrraedd y stafell ginio yr oedd y lle'n ferw, a phawb yn cythru i'r bwyd.

Yna brysiodd i'r howld ac i stafell y peiriannau, ond doedd dim golwg o'i gyfaill yn unlle.

Tipyn o drip - o'r stafell newid, lle bu tîm Ffrainc cyn eu gêm derfynol yng Nghwpan Rygbi'r Byd, i'r seddau Brenhinol.

Mae'r ansicrwydd ynglyn â dyfodol Clwb Pêl-droed Abertawe mor ddyrys ag erioed, ar y cae chwarae ac yn y stafell bwyllgor.

Ac wrth gwrs, roedd golwg ofnadwy ar stafell fwyta'r palas ond buan iawn y daeth y lle i drefn hefo dŵr a sebon a llyfiad o baent.

Yn fy stafell y sgrifennaf hwn a gallaf weld y Passage ar gychwyn am Gymru ac mae awydd cryf ynof i redeg i ymuno â hwy.

Roedd o efo'i dad, yn rhyw lefnyn pedair ar ddeg oed, pan benderfynodd hwnnw agor y stafell.

Dim byd ond wal gerrig!' Doedd hynny ddim yn hollol wir, achos roedd yna ffenestr fach fel agen saethu, oedd yn gadael rhyw lafn main o olau i mewn i'r 'stafell dywyll.

Gwthiodd ei ffordd tua drws ym mhen pella'r stafell.

Meddyliodd Mam wedyn mae'n siŵr mai sŵn Gwenan yn tisian yn ei chwsg roedd he wedi'i glywed, ac aeth yn ei hôl i'r stafell ymolchi i ailddechrau chwilota.

Daeth y rheolwr, Alan Cork, mewn i'r stafell newid ar yr hanner a doedd e ddim yn rhy hapus, meddai'r chwaraewr canol cae, Kevin Evans, sgoriodd gôl gynta Caerdydd.

Goleuwyd canhwyllau mawer ymhob pen i'r stafell, ac wrth eu golau, gwelodd Rowland silffoedd o lyfrau yn ymestyn o un pen i'r llall, cannoedd ar gannoedd ohonynt.

Efallai na fyddai ei thad yn caniata/ u iddo fynd yn ddigon agos ati i sgwrsio â hi, ond o leiaf, gallai edrych arni o hirbell ar draws y stafell.

A hyn i gyd wedi digwydd tra oedd dau ddrws y stafell a'r unig ffenest iddi wedi eu cloi.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

Yr oedd gan ein teulu ni bedair ystafell, yr ystafell wrth y stryd ('front room') lle yr oedd y drws blaen ('front door') a'r gegin y tu ol gyda phantri bach ac uwch eu pennau y ddwy ystafell wely, y stafell flaen ar gyfer y rhieni a'r stafell ol ar gyfer y plant.

Go brin y gall y rhan fwyaf ohonom gofio enw cynllunydd y set hyfrytaf a welsom erioed; ac er mor amlwg yw eu gwaith, sêr tywyll y 'stafell gefn ydyn nhw, oll ac un.

Edrychais arnynt yn gadael heb unrhyw fath o chwerwder, ac anelu am ddrws y stafell bwyso.

O'dd e'n fachan ffein yn y stafell newid.

'Twt lol, Modryb,' meddai he fel pe bai hi'n siarad efo Huw pan oedd o'n dychmygu pethau, 'dim ond sŵn y gwynt.' Trodd ei modryb a'i llywio'n ôl i gyfeiriad ei stafell wely gerfydd ei hysgwyddau.

A cherrig moel ydy waliau'r tū, oddi mew ac oddi allan, llechi glas Eryri sydd ar lawr y stafell fyw, a lle tân anferthol, gyda'r trawst llwyd-ddu gwreiddiol yn dangos olion canrifoedd o'i lyfu gan fflamau, yn ganolbwynt i'r tū cyfan.

'Dwi ddim yn credu bod yna beiriant llun-gopio yn stafell y Wasg ar hyn o bryd.

Dim ond troi ei phen oedd eisisau iddi i weld y bygythiad yn y gegin, yn y stafell wely, yn y stafell fyw.

Camodd Mam o'r stafell ymolchi ac agor drws y cwpwrdd eirio.

Roedd Jac y Sar wedi hau stori ers blynydde i fod e wedi gneud coffin iddo fe'i hunan yr un pryd ag y gnath e goffin i'w wraig, a'i fod e'n i gadw fe dan y gwely, ond gan na fues i rioed yn stafell wely Jac, wn i ddim a oedd e'n gweud y gwir ai peidio.

Daeth lleisiau llawen o'r stafell fwyta.

Mynnai hefyd nad hi oedd wedi tisian gynnau, pan oedd Mam yn y stafell ymolchi.

O'r foment honno doeddwn i ddim eisiau gwneud dim byd ond actio." Wedi bwrw'r fath brentisiaeth, ofer fu ei ymdrechion i fynd i ddysgu a hunllef oedd meddwl am wynebu llond stafell o blant ysgol.

Yna, neidiodd i fyny a mynd trwy ddrws i stafell 'molchi fach gyda'r ddelaf a welodd dyn erioed a honno i neb ond y fo.

Cawsant hwy ill tri fwrdd yn daclus yng nghornel y stafell arall am fod honno ychydig yn wacach.

Ond, medda fo, roedden nhw'n deulu mawr ac roedd ganddyn nhw nifer o berthnasau yn Llundain yn awyddus i ddod i dreulio gwyliau efo nhw yn Exeter, ac roedd hynny'n dipyn o demtasiwn i'w dad ddefnyddio stafell y bwgan.

Pan ddeffrodd Jean Marcel y bore canlynol ac edrych allan drwy ffenestr gul ei stafell, gwelodd fyd distaw, gwyn a'r eira mân yn dal i syrthio.

Ar ôl cyrraedd Gwesty'r Maes Awyr yn Karachi, dyma'r ddau i mewn i'n stafell ni a dywedodd Bholu wrth Akram am agor ceg y sach.

Deuai'r rhan fwyaf o'r sŵn o un o'r ddwy stafell, yn weiddi a chwerthin a hynny'n gymysg ag ambell bwt o gân yn cael ei tharo mewn gobaith a chlecian achlysurol dominôs ar fwrdd.

Os felly cymryd stafell mewn gwesty a throi'n ôl drannoeth.

Ar brynhawn braf, hydref diwethaf, tra mod i'n golchi'r llestri yn y gegin, cerddodd yr heddlu i mewn gyda gwarant i chwilio'r tŷ. Yn anffodus, roedd fy nghynhaeaf cannabis yn sychu yn fy stafell wely.