Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

staffio

staffio

Ond, y mae'n ddisgwyliad newydd fod gan y Bwrdd y ddyletswydd i gynghori'r system ar weithredu pob sefydliad addysgol, i'r graddau y mae'n gweithredu cynllun iaith beth bynnag, ac anhebyg y byddai gan y Bwrdd yr amser (sef y staffio) i fedru monitro neu arolygu'r fath bentwr o gynlluniau er mwyn cyflawni'r ddyletswydd statudol yn effeithiol.

Staffio: Rôl a Pherthynas Canolfannau, PDAG a'r Adran

Gan mai ar gais (neu o leiaf gyda chydsynied) Yr Adran y sefydlwyd rhai canolfannau, ac oherwydd y drefn fod y Swyddfa Gymreig yn cynnig grantiau yn benodol am staffio, mae amwysedd yngln â chyfrifoldebau staffio.

[Cynhwysir enghraifft o holiadur ar gyfer llunio Audit Staffio yn Atodiad ] Cyrsiau - audit a fyddai'n cynnwys gwybodaeth am y posibiliadau o ddatblygu gwahanol agweddau ar addysg Gymraeg yn yr ysgolion a'r colegau; Er mwyn sicrhau addysgu effeithiol byddai angen ymchwil i feysydd hyfforddiant a thechnegau dysgu ar batrwm yr awgrymiadau canlynol: - llunio cynllun hyfforddiant i gymhwyso athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg; - archwilio strategaethau dysgu er mwyn adnabod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg ar batrwm Ysgolion ar Waith a Primary schools: some aspects of good practice; - archwilio'r posibilrwydd o greu strategaethau dysgu gwahanol a newydd yn ôl y galw, ee grwpiau bychain, dysgu o bell.

Oherwydd newidiadau staffio nid oedd angen y gwasanaeth mwyach i gludo'r criw yn ôl i Fachynlleth.

staffio - penodi athrawon a'r defnydd a wneir ohonynt (dylid rhoi sylw arbennig i'r defnydd a wneir o unrhyw athrawon nad ydynt yn arbenigo yn y pwnc ac i natur y gefnogaeth a dderbyniant); dylid rhoi sylwadau gwerthusol ar ansawdd y cyfarwyddyd yn y pynciau a'r HMS a ddarperir i holl athrawon y pwnc a'r cyfraniad a wneir gan staff cynnal.

Dyrennir cyllid ar gyfer staffio canolog y canolfannau ar wahân i'r cyllid a glustnodir ar gyfer projectau.

Dylai unrhyw drefniadaeth gyllidol gydnabod mai cyfarwyddwyr y canolfannau, nid swyddogion PDAG na'r Swyddfa Gymreig, yw'r unigolion â'r wybodaeth orau am yr anghenion staffio mewn unrhyw un ganolfan ac mai'r asiantaeth sy'n cynnal project ddylai fod yn gyfrifol am sicrhau y dulliau mwyaf effeithiol o gyflawni'r tasgau sydd ynghlwm wrth y gwaith cynhyrchu er mwyn cyflawni'r project o fewn y cyfnod cytunedig.

O'r cychwyn cyntaf mae rheolwyr yr ysgol uchod wedi gweithredu yn holol bendant, yn unol â chanllawiau Pwyllgor Addysg Gwynedd, dan drefn asiantaeth staffio cynradd -- trefn penodi Prifathro a Dirprwyon.

Mae cyfraniad y grant tuag at staffio'r canolfannau yn amrywio.

Fel cyrsiau eraill y Coleg bydd y cyrsiau diploma hefyd yn rhan o'r cynlluniau arfarnu rheolaidd a drefnir gan y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd pan roddir ystyriaeth i ddangosyddion ystadegol (ceisiadau, derbyniadau, canlyniadau, gwastraff etc.), adborth myfyrwyr, adroddiadau arholwyr allanol, staffio ac adnoddau.

O safbwynt cyllido'r broses cynhyrchu gan yr Adran, y sefyllfa hanesyddol yn y canolfannau adnoddau yw bod rhai grantiau yn cefnogi cyflogi staff yn ganolog er mwyn darparu clwm o brojectau a bod grantiau eraill yn cefnogi staffio a phrojectau penodol fel eitemau ar wahân.

Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r adnoddau dynol prin, argymhellir llunio BASDATA, i'w gadw'n gyfredol, a fydd yn cynnwys manylion am: Staffio a) audit o athrawon sydd yn y gwasanaeth addysg Gymraeg ar hyn o bryd, gan nodi eu meysydd dysgu; b) audit o athrawon sydd y tu allan i'r gwasanaeth addysg Gymraeg, ond sydd â diddordeb a chymwysterau, a rhai â diddordeb ac a ddymunai gymwysterau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mewn rhai achosion nid yw'r gefnogaeth i'r staffio wedi bod yn ddigonol i gyflawni'r projectau o fewn yr amser disgwyliedig.