Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

statudol

statudol

Y Llywodraeth yn cyhoeddi Mesur Iaith a hynny'n arwain at roi i'r iaith gydraddoldeb ar gyrff cyhoeddus, ac at sefydlu'r Bwrdd Iaith yn gorff statudol.

Ond, y mae'n ddisgwyliad newydd fod gan y Bwrdd y ddyletswydd i gynghori'r system ar weithredu pob sefydliad addysgol, i'r graddau y mae'n gweithredu cynllun iaith beth bynnag, ac anhebyg y byddai gan y Bwrdd yr amser (sef y staffio) i fedru monitro neu arolygu'r fath bentwr o gynlluniau er mwyn cyflawni'r ddyletswydd statudol yn effeithiol.

Mae hon yn fforwm i'r sector wirfoddol drafod gyda chynllunwyr gwasanaethau.e.e.Mae Fforwm Plant a Theuluoedd Gwynedd yn mynd o nerth i nerth fel grwp lobio, ynghyd a cheisio clustnodi'r angen am wasanaethau a hyfforddiant nas darperir gan y sector statudol.

"Ble mae Bwrdd yr Iaith?" Erbyn hyn, saith mis ar ôl dechrau gweithio'n statudol, mae swyddogion gelynion penna'r cwango iaith yn siglo'u pennau ac awgrymu na ddylech chi ddisgwyl dim arall ond distawrwydd a diffyg gwneud.

Diddymodd y Ddeddf hon gategori%au statudol anabledd fel sail ar gyfer addysg arbennig, gan roi system i adnabod anghenion addysgol arbennig disgyblion unigol yn eu lle, ac yna penderfynu ar y ddarpariaeth briodol o addysg arbennig sydd ei hangen er mwyn cwrdd â'r anghenion hynny.

Mae rheolaeth leol ar gyllid a dyletswyddau cynyddol o ran gweinyddu ac asesu'n gosod baich aruthrol ar brifathrawon sydd bellach â'r cyfrifoldeb statudol o gyflawni'r holl ddyletswyddau hyn yn eu hysgolion nhw.

* adrannau gwasanaethau cymdeithasol sy'n darparu lleoedd statudol ar gyfer plant mewn angen mewn canolfannau dydd neu ganolfannau teulu neu mewn ysgolion gwirfoddol;

Argymhelliad Cymdeithas yr Iaith i'r ysgolion hyn yw i gyflawni'r lleiafswm o ofynion statudol fel Byrddau Llywodraethol unigol (e.e cynnal cyfarfod statudol rhieni/llywodraethwyr, cyhoeddi adroddiad blynyddol etc) ac hefyd i drin materion yn ymwneud â disgyblion unigol ar lefel ystod.

(b) Ymgynghoriadau gan Gyrff Cyhoeddus neu'r Cyngor Sir fel Awdurdod Ffyrdd ar faterion cynllunio cyffredinol lle nad oes hawl statudol gan y Cyngor i ddeddfu ynglŷn â'r materion e.e.

O ran polisi, yr awdurdod addysg lleol sydd yn bennaf gyfrifol am gyllido'r ysgolion statudol, am arwain ysgolion ar natur y ddarpariaeth a gynigiant, am fonitro'r ddarpariaeth honno ac am argymell unrhyw newidiadau arwyddocaol.

Tasg PDAG yw hwyluso datblygu addysg yn Gymraeg gan yr holl asiantau statudol ac annibynnol a fedr gyfrannu at y ddarpariaeth.

(ch)Pob gwaith arolwg a ffurfio polisi%au ar gynlluniau statudol ac anstatudol megis y cynlluniau lleol a'r Cynllun Fframwaith cyn belled ag y mae angen gwneud hynny i baratoi'r cynlluniau neu'r polisi%au neu sylwadau drafft mewn ffurf derfynol i'w mabwysiadu gan y Pwyllgor er mwyn eu hargymell i'r Cyngor yn unol â (d) isod.

Mae'r cwricwlwm yn eang ac yn gytbwys, ac mae'n cwrdd â'r holl ofynion statudol.

Ymrwymiad i sicrhau fod yr Awdurdod yn parhau i gyflawni ei rôocirc;l statudol o oruchwylio a rheoleiddio S4C fel darlledwr, gan gymryd ystyriaeth lawn o anghenion a dyheuadau gwylwyr S4C wrth osod cyfeiriad strategol a blaenoriaethu.

(i) Cynlluniau a datganiadau polisi statudol ac anstatudol fel, e.e., sylwadau ar y Cynllun Fframwaith neu unrhyw adolygiad ohono, creu cynlluniau lleol a datblygu unrhyw bolisi cynllunio arall sydd yn effeithio ar bolisi%au cyffredinol y Cyngor.

Sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 21 Rhagfyr 1993 o dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 fel corff statudol anadrannol.

Fel hyn, bydd ysgolion yn cadw at ofynion y gyfraith ond hefyd yn datblygu mewn modd cadarnhaol, gan 'ddod rownd' un gofyniad statudol arall eto nas lluniwyd gydag ardaloedd gwledig mewn golwg.

Y mae'r teitl i'r Ddeddf yn nodi (yn Saesneg, nid oes fersiwn ar gael yn Gymraeg) prif swyddogaeth y Bwrdd Iaith statudol:

Cyrff sydd wedi cytuno cynlluniau iaith statudol â'r Bwrdd.

Rheidrwydd statudol ar Gynghorau Sir i ymgynghori â'r Cyngor Ieuenctid cyn terfynoli Cynlluniau Lleol ar gyfer dyfodol y cymunedau.

Ond, rhaid disgwyl y byddant yn atebol i gynllun iaith os ydynt yn darparu gwasanaeth trwy gytundeb uniongyrchol i gorff cyhoeddus sydd ei hunan yn gweithredu cynllun iaith statudol.

Bydd amseriad y gwaith ei hyn yn dibynnu ar sawl ffactor -cwblhau yr angenhenion statudol, prynu tir ac ar yr arian fydd ar gael ar gyfer y gwaith.

Byddai hyn yn peryglu nifer o elfennau anhepgor y gwasanaeth addysg bresennol yn y cyfnod statudol:

Y mae modd adnabod tri chyfnod o addysg: cyfnod addysg cyn- statudol, cyfnod addysg statudol, a'r cyfnod addysg ôl statudol sy'n cynnwys addysg bellach, addysg uwch ac addysg gymunedol barhaus, a'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu Cymraeg gan oedolion yn brif ystyriaeth ynddo.

Deddf fyddai yn rhoi cyfrifoldeb statudol ar gwmniau preifat fel y Cwmniau Ffôn Symudol i barchu iaith Cymru yn yr un modd ag y mae disgwyl iddynt barchu yr amgylchedd a hawliau eu gweithwyr a'u cwsmeriaid.

Ond, mae gobaith bod y Swyddfa Gymreig yn bwriadu dechrau'n fuan ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd rhwng Dinmael a Thy Nant i osgoi Treoson y Glyn, gan fod yr holl drefniadau statudol bellach wedi'u cwblhau.

Mae'n rhaid i'r arolygiad o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fod yn seiliedig ar wybodaeth fanwl o'r gofynion statudol, gan gynnwys:

Swyddogaeth PDAG yw cynnig arweiniad i'r system ar sut i hwyluso'r fath ddarpariaeth gyd-lynus, ar gyfer plant yn eu blynyddoedd cynnar trwy'r system statudol a'r colegau, i'r addysg barhaus ar gyfer oedolion yn eu cymunedau.

Mae'r gyfraith yn bleidiol i'r Gymraeg, a dyna ydi holl bwynt cael Bwrdd statudol i weithredu.

* Dylai asesu statudol, a chyhoeddi'r canlyniadau, gael ei hepgor yn Gymraeg ar gyfer disgyblion ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf yn union fel y mae asesu'r Saesneg yn cael ei hepgor mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn bennaf.

Cynghorwyr statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a'r cyfle i fwynhau cefn gwlad Cymru a dyfroedd ei glannau.

Er bod diffiniadau statudol o'r term anghenion arbennig ar gael, mae ehangder y grp, amrywiaeth yr anghenion ac amlder ymddangosiad y gwahanol anghenion yn arwain at anhawsterau mawr wrth geisio gynllunio'n strategol.

Hefyd, mae eisiau gwella'r broses o ledaenu canlyniadau'r arolygu hwn i'r sector anstatudol, mynd ati'n drefnus i adeiladu ar y cyswllt â'r sector anstatudol, a hynny'n arbennig drwy Fforwm Amgylchedd Gwynedd - fforwm lle gall y cyrff statudol ac anstatudol sydd â diddordeb yn yr amgylchedd gyfnewid syniadau a gwybodaeth.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gosod dyletswydd statudol ar y Cynulliad i weithredu'r egwyddor fod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal ei fusnes.

Yn achos canolfannau gofal plant bach, y mae pob asiant gwirfoddol a phreifat yn gorfod cael ei gofrestru gan yr adran gwasanaethau cymdeithasol (SSD), felly gellid ystyried mai dyna'r corff cyhoeddus a ddylai yn y pendraw fod yn gyfrifol am bob sefydliad addysgol yn y cyfnod cyn-statudol?

Danfonwyd cyfarwyddyd statudol at gynghorau Cymru yn esbonio y gellid cymryd i ystyriaeth yr effaith ar yr iaith a'r gymuned leol wrth benderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio i adeiladu tai yn lleol.

Y mae gan lywodraethwyr ysgolion lawer o bwerau a chyfrifoldebu statudol a chymdeithasol, fodd bynnag rhaid i ni sylweddoli fod y ddau brif rym bellach yn nwylo y llywodraeth ganolog.

Onibai eu bod yn awyddus i gydymffurfio o'u gwirfodd, ni ddisgwylid iddynt gytuno â'r un cynllun iaith statudol penodol iddyn nhw'n unigol.

Fe fydd diwedd y flwyddyn hon - a blwyddyn gynta'r Bwrdd statudol - yn allweddol.

Byddai'r fforymau yma yn cynnwys cynrychiolaeth eang ac amrywiol o'r sector statudol, gwirfoddol ac o'r gymuned er mwyn sicrhau deialog deinamig rhwng aelodau'r Cynulliad â phobl cymunedau Cymru yn ôl eu profiad o ddydd i ddydd yng Nghymru.