Cododd yn bwysig a'i fag yn ei law ac meddai, cyn troi ar ei sawdl: "I am staying at the Imperial Hotel." Ni chlywodd hi'n piffian chwerthin wrth i'r drws gau o'r tu ol iddo; roedd o'n rhy brysur yn llygadu o'i gwmpas.