Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stesion

stesion

Wedi iddo gyrraedd stesion Blackpool, teimlai ei geg yn grimp.

Bellach, roeddwn yn dechrau amau y milwr yn stesion Corwen y diwrnod cynt a ddywedodd fod digon o gantîns ar gael; soniodd o ddim am y chwarter milltir o giw a welech ymhob lle felly.

Cyn cyrraedd Rhuthun, codais i edrych drwy'r ffenestr a gwelais fod tipyn o bobl yn y stesion yma.

Doedd yno ddim ond chwarel, tair ffarm a stesion gwylwyr y glannau.

O'i chymharu ag Agra, roedd stesion Delhi'n edrych yn lan pan gyrhaeddon ni'n ol heno, a'r YMCA., pan gyrhaeddais hwnnw ar ol taith wallgof trwy draffig ardal yr orsaf mewn rickshaw-peiriannol, yn ddigon croesawgar yr olwg - ymron yn aelwyd gynnes gyfarwydd.

Ond fe gadwodd hyn fi i fynd nes cyrraedd stesion Caerliwelydd (Carlisk) rywbryd yng nghanol y nos.

Y tu ol ac o gwmpas y sbwriel, a'r bobl sy'n cysgu ar y palmant, yn y stesion, ar y gerddi ar ochr y ffordd, mae rhai adeiladau hardd yn Delhi.

Roeddwn eisiau gweld trenau yn y stesion ond nid oedd gennyf y newid iawn i dalu am fynd i mewn.

Lladd amser oedd hi wedyn a gwylio'r peth yma a'r peth arall o gwmpas y stesion.

Fel hyn oedd hi ymhob stesion trwy Brydain ond roedd digon o arwyddion yn hysbysu gwahanol nwyddau rhyw gwmni neu'i gilydd.

At hyn, llawer o wahanol drenau yn dod i mewn ac allan o'r stesion, yn llwytho a dadlwytho.

Ond wrth fynd heibio i stesion Caernarfon, dyma drên yn gollwng chwibaniad uchel, a'r ceffylau'n neidio ymlaen mewn dychryn.

Safai mewn rhyw stesion bach ddigaon yr olwg, ddistaw fel y bedd, ar wahân i sŵn anger' y trên yn ebychu.

Tacsi o dy Nain a Taid yn Maes Barcer i Stesion Gaernarfon i ddal y trên i Fangor a newid ym Mangor i fynd i Heathrow i ddal yr awyren i Awstralia.

Arferai Hugh Owen Talgwyn Isaf gario "visitors" o Lerpwl, Manceinion a Chaer yn ei "waggonett" dau geffyl o Stesion Pentraeth i'r Traeth Coch am ychydig sylltau, a'r un modd o'r Benllech gan fod tua hanner milltir i'r pentre pryd hynny, ond sydd erbyn hyn yn dref reit dda.

Wedi cyrraedd adre', cael cinio hefo'r teulu a the a thipyn o swper; wedyn tri o'i frodyr yn ei ddanfon i'r stesion i ddal y trên wyth i Gaergybi.

Yma ac acw, gwelwn lawer o fechgyn a dynion mewn dillad sifil o gwmpas y stesion ac amheuwn eu bod yn yr un sefyllfa â minnau ac yn mynd i wersyll i ryw gyfeiriad neu'i gilydd.

Wedyn, dyma'r ddynas yn rhoi pib i bawb i hongian wrth labad ei gôt, a'n gwahodd ni i'w chwythu nhw, ac mi fasach yn meddwl wrth y sūn fod yna griw o sgyrsions ar stesion Gaer wedi mynd yn groes.

Er nad oedd yna fawr o arwydd bod y 'Royal train' ar ei ffordd i lawr i stesion Caerdydd nac unrhyw stesion arall.

Yn fuan wedyn cafodd Dik Siw y contract i adeiladu Canolfan Chwaraeon helaeth ar bwys y stesion Dan, a chil-dwrn go dda i Ynot am dynnu llinynnau.

Troai hi drachefn, a symudai'r trên wrth fesur araf allan o'r stesion, a chleddid y porter a'i lamp yn ei thywyllwch.