Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stiward

stiward

Nid oedd yn anodd i hogiau'r Nant sleifio adre gan fod Llwybr y Garreg Wen y tu ôl i domennydd uchel o rwbel, ac os am ddal troseddwr byddai'n rhaid i stiward fynd i ben un ohonynt i gadw gwyliadwriaeth.

Ym mhob maes parcio Steddfod neu sioe y mae yna rywun y mae'n rhaid iddyn nhw gael arafu i ofyn i stiward am gael parcio rywle gwahanol i lle mae hwnnw eisiau eu hanfon.

Oherwydd hynny, pan fyddai'n fater o frys, a gorchwyl arbennig i'w gwblhau ar unwaith, byddai'r stiward yn gosod y gwaith 'ar gontract' i Francis gan wybod y byddai'r adeilad ar ei draed mewn chwinciad .

Gosodwyd y gwaith ar gontract i Francis, ac er syndod i'r stiward a phawb yn y bonc roedd y caban yn barod i'r dynion fynd iddo ymhen deuddydd a hanner.

Gallai'r stiward, o'r bonc islaw, weld ffrynt y twr, ond ni allai weld y tu ôl iddo.

Lwc i'r Stiward Bach i rywun ddyfod heibio ar y pryd.

Brysiodd Denis y Stiward o'i bulpud i geisio troi y locals meddw rhag tarfu ar brynhawnol hedd y sipwyr gin.

Wedi mynd at Bycli[r Stiward i ofyn am rywbeth gwell na rybela, hwnnw heb fod ar gael, ac yntau wedi dweud ei neges wrth Morus Ifan.

Carasai gael lladd Morus Ifan, y Stiward Bach.