Wrth gymryd stoc o bethau yn ystod y fendith a draddododd Huw Huws, euthum braidd yn ddigalon.
Yn y dyfodol rhagwelir y bydd Tai Cymru yn disgwyl i'r Gymdeithas ddatblygu ei stoc gyffredinol ar gyfer anghenion arbennig ac y
Ymatebodd y Prif Swyddog Technegol ei fod yn gwerthfawrogi'r sylwadau ac y canolbwyntid yn ystod y ddwy flynedd nesaf ar y gwaith sydd yn aros i'w wneud ar y stoc tai.
Adeiladwyd cyfran helaeth o stoc tai cyngor yr ardal yn ystod y cyfnod hwn a hynny'n bennaf gan y cyn-gynghorau trefol.
'Symud ymlaen rşan, cer yn ôl i dy siop, mae dy gwsmer di newydd gerdded allan hefo llond ei hafflau o dy stoc di.' Rhegodd Huws Parsli a'i bachu hi o'na ar ôl y cyn-gwsmer.
I chi a mi heddiw mae'n ddrama hen ffasiwn iawn, yn llawn cymeriadau stoc, ond nid yw heb ei rhinweddau, a'r peth pwysicaf yn ei chylch yw ei bod yn llawn beirniadaeth gymdeithasol ar draha landlordiaid, rhagrith rhai crefyddwyr a pharchusrwydd cyfoglyd y dosbarth canol Cymreig newydd.
Chwarddodd Dan yntau wedi iddo ddarllen yr hysbysiad: 'Drwy i ddwr dorri i mewn a difetha'r stoc o bapur yn y seler, nid ymddengys Yr Utgorn yr wythnos hon.
Oed y Stoc Dai
"Elsbeth yn edrach cystal ag erioed" A phwysodd yn ôl i gymryd stoc o'i dillad.
Dylai'r Cynulliad ddileu Tai Cymru fel Quango a chryfhau darpariaethau Cymdeithasau Tai Lleol yn y sector rhentu gan eu galluogi i brynu mwy o dai o'r stoc dai presennol yn hytrach na'u gorfodi i godi tai newydd.
Mae hyn yn golygu mai dim ond dulliau ffermio isel eu gwerth y gellir eu defnyddio, megis bridio stoc, gwartheg stor, defaid a gwlân.
A ydyw'n talu i'r perchnogion roi eu harian yn y fenter yn hytrach na'i osod, dyweder, yn stoc y Llywodraeth?
Un o ganlyniadau'r gogwydd yn y stoc dai yw fod anffitrwydd a diffyg cyfleusterau safonol yn fwy amlwg.
Yn ei waith fel amaethwr - y cofiwn Y cyfaill di-gynnwr'; Fel cloc rowndio'r stoc heb stwr A wnaeth nes methu neithiwr.
Daethpwyd i adnabod Hydref19 fel 'Black Monday' pan gollwyd 50 biliwn o'r farchnad stoc.
Pan ddaeth Catherine Pierce yma gyntaf i aros 'roedd fy nhad mor benderfynol a dieflig am gadw'i hen wraig fel y penderfynodd werthu'i stoc.
O'r diwedd mae dyddiad rhyddhau albwm Caban wedi cyrraedd, a'r wythnos yma mae ‘na stoc go dda o'r cd's wedi cael eu dosbarthu i'r siopau.
Ategu gwaith awdurdodau tai trwy ddarparu cartrefi o safon i bobl leol sydd ar incwm isel ar gost y gallant ei fforddio, boed ar rent neu ar gyfer prynwyr tro cyntaf, ynghyd ag ateb angen pobl sydd ag anghenion arbennig gan geisio gwneud hynny o fewn stoc bresennol yr ardal, yn y dull mwyaf effeithiol, efo gwasanaeth sydd yn atebol i'r defnyddwyr a'r cymunedau lleol gan rannu'r adnoddau'n deg rhwng gwlad a thref.
Dichon mai cais oedd hyn i awgrymu bod ei stoc lyfrau yn fwy amrywiol nag eiddo llyfrwerthwyr eraill Castellamare.
Bydd felly angen edrych ar ein stoc gyffredinol bresennol yn ogystal â datblygu cynlluniau penodol.
Chafodd Dora Williams, Cerrig Gleision 'rioed fabi, na gwr iddi'i hun, ac wedi colli ''rhen bobol' yn nechrau'r tridegau ymrodd i droi tyddyn caregog yng ngwynt Porth Neigwl yn amgenach tir ac i fagu stoc a ddenai borthmyn yno o bellter mawr.
Dengys yr uchod mai bychan yw cyfraniad cymdeithasu tai o ran canran o'r stoc dai, er eu bod yn medru gwneud cryn argraff o safbwynt cyfanswm yr unedau a ddarperir ganddynt, ac ymateb i'r angen lleol.
A chydag ymdrech arwrol, a stoc dda o hwiangerddi, fe lwyddodd i gadw'r bechgyn i ganu bob cam o'r ffordd yno.
ochr yn ochr â'r chwarelwr, y bugail a'r Gymraes rinweddol fel un o gymeriadau stoc y llenyddiaeth gyfundrefnol a grewyd yn Oes Victoria," meddai.
Mae Tottenham Hotspur wedi cyhoeddi ar y farchnad stoc mai Glenn Hoddle yw eu rheolwr newydd.
(vi) dim newid ychwaith yn y cyflenwad llafur, y stoc cyfalaf, na chyflwr technoleg, ac, fel canlyniad, gallu cynhyrchu'r economi (neu lefel cynnyrch cyflogaeth lawn) hefyd yn aros yn ddigyfnewid;
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am weld Cyngor Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar unwaith drwy wneud ymchwil manwl a pharhaol ym mhob cymuned i'r angen lleol am dai ac eiddo gan lunio strategaeth fanwl i ddiwallu'r anghenion hynny oddi mewn i'r stoc tai ag eiddo presennol ac wrth ddiddymu pob caniatâd cynllunio sydd dros ddeng mlwydd oed ac nas gweithredwyd arno.
Cymryd stoc o'r dillad gwely oedd isio i ddechra a newid gwlâu gwlyb Tony a Jason.
Wedi iddi hi ddychwelyd i Abergele, cafodd John ar ddeall fod yr hen ddyn yn bwriadu gwerthu'i dipyn stoc.
Am flynyddoedd pysgota oedd yr addasiad yn yr Alwen - ac ychwanegwyd stoc o frithyll brown at y rhai naturiol nofiai o'r llednentydd...
Byddai'r rheolwr yn gyfrifol am gadw cyfrif manwl o'r holl bryniant yn ystod yr wythnos gan gadw gwyliadwriaeth fanwl ar y stoc yn ogystal.
Chwithau ffermwyr ieuainc heddiw, daliwch i gynnal safon eich tir a'ch stoc, a byddwch yn barod at yr amser y daw eto barch at fyd amaeth.
Nid oes ffigurau ar gael i roi darlun manwl o fframwaith oedran y stoc dai.