Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stond

stond

Rhoisai frêc stond a therfynol ar ei ddagrau mewn eiliad.

Y noson o dan sylw, bu Miss Williams yn hir syllu drwy'r twll yn y blacowt yn ffenestr y llofft ffrynt ar lampau bus Ifan Paraffîn yn dawnsio'u ffordd yn feddw ar hyd Pen Cilan cyn stopio'n stond, ond heb wybod i sicrwydd mai bus oedd yno.

Yn y fynwent, fe safodd yn stond a thynnu ei gap o flaen un o'r meini coffa.

Yn sydyn safodd yn stond wrth deimlo'i bresenoldeb.

Safodd y dynion yn stond i wylio'r garafa/ n yn ymadael cyn troi i geisio trin clwyf eu cyfaill.

Safodd pawb yn stond, yn edrych ar ei gilydd.

Dyw'r Antur ddim yn sefyll yn stond - mae cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol, ac ymdeimlad o hyder wrth gynllunio'r dyfodol hwnnw.

Safent yn stond.

ei dawns daer a rewyd yn stond.