Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

stondinau

stondinau

Gorsaf y rheilffordd yn anhygoel, hyd yn oed ar ol gweld ffilm 'Ghandi' - yn orlawn mewn modd na ellir ei ddychmygu heb ei weld, yn swnllyd, yn fyglyd, nid yn unig gan stem ond gan fwg y gwahanol stondinau sy'n coginio ar y platfform.

Mae diddordeb yn y gweithgareddau cenedlaethol yn cynyddu; mae'r stondinau yn yr Eisteddfodau a'r Sioe yn denu sylw ac yn dwyn ffrwyth.

Daeth y si drwodd fod afon Tafwys yn Llundain wedi ei rhewi mor galed fel y gellid codi stondinau arni i werthu cnau castan poeth i'r rhai oedd yn sglefrio arni.

Ar yr un pryd, drwy ddarlledu lluniau o sachau bwyd a oedd yn amlwg wedi'u dwyn ac ar werth ar stondinau'r farchnad a thrwy adrodd straeon am famau'n `aberthu' eu babanod, doeddwn i ddim yn bwriadu darbwyllo'r Cymry i beidio â rhoi.

Yn ystod Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol bydd eisiau llawer o help ar stondinau'r Gymdeithas i gasglu'r enwau ar y ddeiseb.

Mae'r presennol yn brysur tu hwnt, ac yn yr orsaf rheilffordd ac yn y cyfan o'r man siopau a stondinau a hofelau a thryciau a rickshaws a sgwteri a chysgwyr a thacsis o'i chwmpas hi, mae'r peth tebycaf a welais i erioed i ddinas ganol-oesol yn byw a bod o'm blaen.

Fe gawson ni ein bygwth tra'n ceisio ffilmio gŵr oedd wrthi'n torri camel yn ddarnau, yr anifail wedi'i rannu'n goesau, pen, gwddf a thafelli o gig coch ac ar fin cael eu hongian ar un o stondinau prysur y farchnad.

I mi roedd rhywbeth gwirioneddol naturiol am gerdded o fyd y siopau, stondinau y gluewein ar castanau a cherdded i mewn i eglwys ymysg cannoedd i wrando ar gôr yn canu carolau.