Cafodd Cyfres Cae Berllan, sef cyfres o storïau byrion, eu sgwennu mewn ymgynghoriad ag arbenigwr iaith ar gyfer plant sy'n dechrau darllen.
'Storiau Miss Lloyd!' Yr oedd byd o ddirmyg yn llais fy modryb.
Alla i ddim dod o hyd i un o'ch safleoedd/storïau.
Yn raddol dechreuais synhwyro amdani fel person, nid fel ffatri storiau.
Storïau i blant sy'n dechrau cael blas ar ddarllen.
Ond y rhan amlaf, storiau o'r frest oedd ganddi.
Darlledwyd nifer o ffilmiau cyffrous am y tro cyntaf ar The wRap gyda chymysgedd amrywiol o bynciau a storïau.
Mae'r rhaglen yn cynnwys adolygiadau sinema, newyddion gwyddoniaeth a llinell gymorth brysur i ddefnyddwyr, yn ogystal â storïau'r dydd.
At hynny fe geid storiau a cherddi, heb anghofio'r croesair, ynghyd a deg swllt a chwecheiniog am ddatrys.
Byddai 'storiau Wil Fach-wen' ar fynd yn y chwarel yd wastad, a hyd heddiw clywir rhai o'r hen chwarelwyr yn eu hadrodd a'u hailadrodd ar gongl y stryd neu yn eu cartrefi.
O fewn y rhaglenni a'r nodiadau i'r athrawon cyflwynir storïau newydd sbon ar y themâu uchod yn ogystal â deialogau/dramodigau bychain i gyd-fynd â'r storïau.
Rydyn ni'n cynhyrchu ac yn diweddaru storïau yn barhaol er mwyn creu gwasanaeth newyddion Cymraeg mwyaf cyflawn y We.
'Mae storiau Miss Lloyd yn well.'
Roedd un o storïau mwyaf dwys y flwyddyn, hanes dychrynllyd Josie Russell ond un sy'n rhoi hwb i'n gobeithion yn bwnc rhaglenni radio a theledu rhwydwaith: adroddodd Josie's Story yr hanes ar BBC Un a defnyddiodd BBC Radio 4 ddyddiaduron personol a theimladwy Shaun a Josie Russell yn Life with Josie.
Mor ofer oedd disgwyl i Tegla ddal ati i sgrifennu rhagor o storiau plant ar ôl hyn: fel petaem yn gofyn i awdur cainc Branwen sgrifennu cofnodion pwyllgor !
Casgliad newydd o storiau byrion gan "awdur gwreiddiol a beiddgar".
Ond ar y cyfan nid yw'n nofelwyr hanes yn gweld hanes fel proses, dim ond fel ffynhonnell ar gyfer storiau difyr, gyda'r dieithrwch cyfnod yn ychwanegu rhyw elfen egsotig sy'n ennyn chwilfrydedd.
Storïau yn seiliedig ar chwedlau Cymreig traddodiadol.
Aeth rhaglenni materion cyfoes BBC Cymru o nerth i nerth eleni, gyda newyddiaduraeth awdurdodol a thriniaeth llawn dychymyg o storïau mewn cyfresi fel Taro Naw, Maniffesto, Ewropa a Ffeil, y rhaglen gylchgrawn i blant sy'n denu canmoliaeth uchel ac a ddarlledir dair gwaith yr wythnos.
Crëir y storïau gan gyn-gynhyrchydd yr Archers David Neville, a'u sgriptio gan dîm sy'n cynnwys y dramodwyr amlwg Frank Vickery, Ian Rowlands a Laurence Allen.
Plant fydd yn adrodd y straeon sy'n berthnasol i'w hardal eu hunain yn ogystal â storïau mwy cyffredinol.
O lle yn y byd mae nhw'n cael storiau fel hyn!
Cyfoeth o storiau, am ei ddyddiau cynnar fel siopwr gwlad, oedd forte Evan Jones, y perchennog, a gallai ddifyrru'r oriau gydag atgofion am y llon a'r lleddf.
Rydych chi'n gynulleidfa rhy barchus i fi fentro ailadrodd rhai o'r storiau a'r dywediadau carlamus a oedd yn cylchredeg ar y pryd.
Storïau am saith cawr o wahanol rannau o Gymru.
Cyfres o storïau antur, ar gyfer bechgyn Cyfnod Allweddol 2 yn bennaf.
Tecwyn Lloyd, wrth gwrs, yw ein dadansoddwr gorau o storiau Tegla er iddo fethu wrth gloriannu Gwr Pen y Br~n pan ddaeth allan gyntaf.
Storiau bach digon diniwed - rhai ohonynt wedi eu dyfeisio gan y deudwr fyddai'r storiau hyn, a'r gweinidog bron bob amser fyddai yn beirniadu.
Un o gyfres o storïau newydd am y cymeriad poblogaidd i blant.
Trwy wrando ar storïau cyfle i blant ddysgu llythrennau'r wyddor.
Gwefan fywiog ar gyfer plant blynyddoedd cynnar - pob math o gemau, storiau a llawer mwy.
Felly, os y gwyddoch chi am Gymry sydd â bywydau neu storiau difyr i'w dweud yn lle bynnag yn y byd, d'wedwch Hywel amdanyn nhw.
Rhydd awdurdod i'w waith i gyd - gan gynnwys darllediadau o'r Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, yn ogystal â storïau newyddion mawr megis ymddiswyddiad Ron Davies fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Cafwyd diwrnod hyfryd dros ben yn sgwrsio, cofio hen storiau teuluol, a throedio eto ar hyd hen lwybrau Camer Fawr a oedd mor agos at ei galon.
Ond rwy'n cofio un o'i storiau yn dda iawn : air am air ymron gan iddi gael ei thraddodi yn fy nghlyw ddegau o weithiau.
Ceisiwn gofio rhai o'i storiau am ei phlentyndod ond 'doedd hi byth yn fwy na rhyw ddeg oed yn y storiau hynny.
Etifeddodd y ddau fab y cafodd hi eu magu i oedran gwŷr, Dafydd a Daniel, rannau gwahanol o'i chynhysgaeth, y naill yn datblygu'n adroddwr storiau yn null yr hen gyfarwyddiaid, a'r llall yn datblygu'n nofelydd, ac y mae'n rhyfedd, er nad efalli'n gwbl annisgwl, ei bod hi'n fath o ddolen gyswllt rhwng yr anterliwd neu'r ddrama Gymraeg, ym mherson Twm o'r Nant, a'r nofel Gymraeg ym mherson ei mab Daniel, oblegid y mae gwreiddiau mwy nag un elfen yn y nofel i'w holrhain yn ôl i'r ddrama.
'Mae'n bryd i ti ddysgu darllen y Beibl drosot dy hun,' meddai, 'a pheidio a llenwi dy ben a rhyw hen storiau gwneud.'
Yr oedd yn fedrus yn ei grefft, ond yn fwy medrus fyth yn y grefft o ddweud storiau celwyddog.
Adroddir llawer o storiau dirmygus amdano i'r perwyl hwn.