Mae'r cyfan o'r storiwyr hyn, serch hynny, o ran techneg, yn perthyn yn ddiogel i fraddodiad y stori fer Gymraeg, er mor gyfoes eu deunydd.
Mae'r ddwy gyfrol sy'n eiddo storiwyr a ddaeth i'r maes yn fwy diweddar, ar y llaw arall, yn arbennig o ddiddorol am eu bod yn ymddangos i mi fel pe bae'n nhw'n chwilio am foddion newydd i ddweud eu dweud am y byd newydd.