Ac yr oeddwn yn clywed sŵn eu hadenydd wrth iddynt symud, ac yr oedd fel sŵn llawer o ddyfroedd, fel sŵn yr Hollalluog, fel sŵn storm, fel sŵn byddin; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd.
'Rydym ni'n hwylio i ganol storm.
Fe gafodd purfa olew enfawr Texaco ei hysgwyd gan gyfres o ffrwydradau ychydig oriau ar ôl storm fellt a tharanau.
Wrth glywed curiadau cyson cacynaidd y moto beic bychan wrth iddo wasgu'r sbardun i'r pen er mwyn tynnu'r owns olaf o nerth allan ohono, hiraethai Dei am gael bod yn berchen moto beic go iawn, un ai un bychan nerthol, neu un mawr trwm a fyddai'n rhuo fel storm bell wrth wibio ar hyd y ffordd.
Yn yr un storm daeth un o'r hwyliau ar y prif fast, yr upper topsail, yn rhydd o'r gaskets.
Un o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a fanteisiodd ar y storm o brotest a ddilynodd i dynnu sylw at ei bryddest ei hun.
Llew o gael rhyddhad oedd mynd ati i ysgrifennu gweithiau gwreiddiol a hefyd addasu chwedlau gwerin a ffeithiau hanesyddol, gan beri bod storm ym mynwes sawl plentyn wrth iddo fynd o antur i antur wrth droi'r tudalennau.
Storm!
Rwy'n cofio'n glir cyrraedd Montreal yng nghanol storm drydanol enbyd, a gwres llethol ar ben hyrmy yn`sugno pob owns o- ~nni oedd- yn y corff.
Cyn bo hir cododd storm brotest o gyffiniau'r sêt gefn.
Fe gawsom ein dal am ddyddiau ar Enlli oherwydd y Storm a'r GWYNT.
Tywydd braf a chymerwyd y cyfle i atgyweirio rhai o'r planciau ar y dec oedd wedi cael eu difrodi yn y storm.
Roedd yn storm filain a ddeuai'n nes o hyd ac eisteddodd ar reiddiadur tra'n egluro i'r plant nad oedd rhaid iddyn nhw bryderu ac y gellid cyfrif mewn eiliadau i fesur y pellter rhwng y storm a'r ysgol.
Mae llawer o'r gwledydd sy'n datblygu yn dioddef eithafion tymheredd a lleithder ac mae rhoi ffilm mewn camera bob rhyw ychydig funudau mewn monswn neu storm o lwch yn waith lle gall y ffilm gael ei difetha'n hawdd iawn.
Ac yna, tua diwedd y tymor hwnnw, dyma hi'n codi yn storm anferth.
Belka, Chernysh - arhoswch chi fan hyn!' Edrychai'r ddau gi yn anfoddog wrth i'w meistr gychwyn i ganol y storm eira.
Cododd storm o brotest yn sgîl coroni Prosser Rhys gan fod y bardd yn trin rhyw yn gignoeth agored yn ei bryddest, gan gynnwys gwrywgydiaeth.
Gellir cysgodi o dan ddraenen mewn storm a bod yn hollol ddiogel gan ei bod yn goeden amddiffynnol.
Sawl storm dorrodd drostynt tybed?
Bellach, pan fydd trychineb neu ryfel neu storm, fe ddaeth yn arferol clywed lleisiau Cymry alltud yn sôn am eu profiadau.
'Roedd Meinir, fy ngwraig, yn hwylio yr union noson yna hefyd, yr ail ar bymtheg o Orffennaf ddwy flynedd yn ôl, ac fe suddodd y llong honno mewn storm!
`Dyma'r storm waethaf rydw i'n ei chofio ers imi ddechrau gweithio ar y rheilffyrdd,' meddai Thomas Barclay.
Rho ras i ninnau geisio ymochel dan gysgod dy adain a gwneud hynny pan fo hi'n hindda fel, pan ddelo'r storm, y cawn orffwys mewn tangnefedd.
Edrychodd ar fy wyneb, a chymerodd beth cysur nad oedd rhagolygon am storm i'w gweld arno.
Gobeithient y byddai'r storm wedi chwythu ei phlwc erbyn y bore.
Mae llonyddwch mawr mawr mewn gwylio Storm fel 'na.
Ac y mae'r ysgrifenwyr yn dra ymwybodol o'r tywydd, - yr heulwen, y glaw, y gwynt, y storm, y cymylau a'r daran.
Sut lwyddodd pethau mor frau, mor ysgafn â brwyn i oresgyn y storm tra bo derwen mor gadarn wedi'i chwympo ganddi?
Yn wir, caed storm enbydus a disgrifiwyd hi'n fyw iawn â'i ddawn arferol gan Penry Evans.
Buom at y Maen Du bob dydd tra parodd y Storm ar ei gwaetha'; mynd gyda gofal a pharch mawr, heb ryfygu dim...
Pedair blynedd a barhaodd hwn er hynny gan i long y cwmni suddo mewn storm enbyd gerllaw Lerpwl ac oherwydd hynny daeth terfyn ar yr holl weithgaredd.
Ac wedyn, tynnu gwynt drwy ei ddannedd a fyddain gwneud i Perfect Storm ymddangos fel awel Mai o gael gwybod y pris go iawn.
Er enghraifft pan oedd ef mewn cyfyng gyngor, "Ai gwell cysgodi?" Hynny cyn amser radio, wrth gwrs, i roi rhagolygon y tywydd a rhybudd o storm ar yr arfordir.
Cerddi eraill: Un o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a fanteisiodd ar y storm o brotest a ddilynodd i dynnu sylw at ei bryddest ei hun.
Am wythnosau, mi gawsom ni un storm ar ôl y llall.
Fe ddrylliwyd y llong, nid gan storm, ond ynghanol gormod o draffig morwrol.
Mynd yno gyda chriw bychan, wedi clywed mai dyma'r man orau i wylio'r Storm.
Fodd bynnag, bu'r brotest symbolaidd a'r ddameg yn effeithiol, a throes y storm yn gyfrwng i ddangos maint 'cariad y darllenwyr annwyl tuag at ein cylchgrawn'.
Gwyddai ei fod yn gryfach na'r storm.
Yn y stori hon cyfeiriodd at storm fellt a tharanau a ddigwyddodd unwaith pan oedd yn brifathro yng Nghoed-y-bryn, Ceredigion.
"Rhuodd y storm i'w hanterth.
Gwyddem am ei thaith i'r Andes, ac am y storm ar y mor, a theimlem fod rhyw ogoniant tarawiadol o'i chwmpas!
Aeth ei brawd allan yng nghanol storm fellt a tharanau i brynu pinafal imi wedi i Apple d dweud fy mod yn hoff ohonynt.
Pwysigrwydd mwyaf y penderfyniadau hynny, mae'n debyg, oedd iddynt ostegu'r storm a oedd yn bygwth codi ers cryn amser oherwydd croesdynnu rhwng gwahanol garfanau yn y Blaid ar y ddau bwnc.
Ond i ni ar y pryd, yr oedd y gwrthdaro i'w deimlo'n union fel storm fawr; ac i gallineb Saunders Lewis y mae'r clod am gadw'r storm draw.
Dyna pam fod rhai pobl yn credu ei bod yn ddiogel i gysgodi o dan dderwen yn ystod storm, am na fydd y mellt yn taro'r goeden.
"'Rydw i wedi sefyll yn gadarn yn erbyn pob storm hyd yn hyn a tydw i ddim yn bwriadu ildio i'r gwynt hwn heno chwaith," meddai'r dderwen falch.
Nid wyf yn amau dim na chawn ni lawer storm; gorau yn y byd, fe'n gwnânt yn well morwyr.
Rhwng hanes Gostegu'r Storm a hanes Yr Iesu yn Cerdded ar y Môr yn yr Efengyl yn ôl Marc ceir hanes Porthi'r Pum Mil.
Gwaethygodd y storm, ysgubodd moryn mawr drosti a golchi'r ddau gwch achub i'r môr a malu'r olwyn llywio.
Gwahaniaeth arall ynddynt rhagor yr ysgyfarnog 'Gymreig' yw'r ffaith fod eu tiriogaeth yn eang iawn a'u bod yn symud gyda'i gilydd o un gymdogaeth i gymdogaeth arall o flaen storm neu berygl.
Ond dynesu a wnâi y storm o hyd ac yn y man roedd uwch eu pennau.
Un o'r pethau cyntaf a ddenodd fy sylw pan ddechreuais fynd i'r capel oedd y darlun ar y mur yno, sef llun llong hwyliau mewn storm uwchben y geiriau 'Cofiwch y Morwyr'.
Aeth Iago at Pedr, oedd wrth y llyw ac meddai: 'Pedr, mae hi'n storm arswydus.' 'Ydyw,' meddai Pedr, 'mae hi.' 'Yr wyf yn meddwl y byddai hi'n well i ni fynd yn ôl,' meddai Iago.
Tresio bwrw y prynhawn - storm o fellt a tharanau felly doedd dim trydan na dwr.
Y tro cyntaf iddo hwylio am Gymru, dair blynedd ynghynt, cododd storm enbyd ar y môr a bu'n rhaid troi'n ôl am Ffrainc.