Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

straen

straen

Rwy'n hollol sicr fod y meddwl dynol dan straen fawr pan fo'n ymgodymu â materion nefol uwch clogwyni Deall.

Cofiwch Dylech blygu eich penliniau AC NID EICH CEFN cyn codi rhywbeth, fel ' bod cyhyrau'r glun yn cymryd y straen.

Yr unig straen arno chi fydd cofio rhif eich cerdyn cerdyd.

Ond problem unrhyw ddiwylliant lleiafrifol yw ei bod yn straen ar adnoddau dynol ac ariannol gorfod darparu'r helaethrwydd defnyddiau sy'n angenrheidiol i blesio chwaeth amrywiol y gynulleidfa, ac na ellir chwaith fforddio troi unrhyw ffurf lenyddol i gyfeiriadau rhy esoterig ddeallusol ar draul ennyn diddordeb y mwyafrif (sydd ynddo'i hun yn lleiafrif!) Felly rhaid o hyd ennyn diddordeb yn y gair Cymraeg printiedig trwy gyfrwng pethau fel Cyfres y Fodrwy neu'r papurau bro, er bod y wasg argraffu'n anleu fwyfwy at bobl sy'n meddwl yn ystyriol erbyn hyn.

Mae'r straen wedi dechrau dangos yng Nghuba ei hun.

Gwêl ef ôl straen cynllunio gofalus ar rai ohonynt, ac mae'n cyfeirio'n benodol at y stori 'Dwy Gwningen Fechan' lle ceir toreth o gymariaethau'n dilyn ei gilydd.

Dim ond poen a straen a'u llygaid gweigion ar rhyw orwel pell.

Dangosodd yr Athro Petkov ymhellach fod ginseng yn amddiffyn y corff rhag effeithiau tyndra a straen.

A hithau'n dal i ddiferu ar ôl cymryd cawod o dan fwced dyllog, fe ddywedodd un wraig, Im Sarin, wrtha' i fod y prinder o ddynion yn gosod straen gynyddol ar wragedd sy' wedi diodde' cymaint yn barod.

Ond mae'r llyfr yn rhoi darlun o grwp sydd wedi bod o dan straen aruthrol ac wedi gorfod gweithion anhygoel o galed am flynyddoedd cyn derbyn clod.

Roedd Arabrab ei wraig yn gyfoethog iawn, a'i safle ef fel Swyddog Cynllunio (swydd fach reit hwylus a digon di-straen) yn dibynnu arni hi i raddau helaeth, ac ni allai fentro'i chroesi.

Yn lle yn yr airing cupboard ma'r crys Jini?" 'Roedd y llais angylaidd wedi mynd i ebargofiant erbyn hyn, 'roedd nhad o dan straen fawr i beidio gweiddi.

Yr oedd llawer o gerddoriaeth cyfoes Ewropeaidd bryd hynny wedi'i drochi mewn euogrwydd - 'roedd straen cymdeithasol ar y cyfansoddwyr - cyfrifoldeb y cyfansoddwr tuag at ei gymdeithas, a 'roedden nhw'n benderfynol o brofi hynny.

Yr oedd straen y Rhyfel a'i enbydrwydd wedi peri bod y milwyr yn holi cwestiynau dwys ynglŷn â phwrpas bywyd, ond nid oedd hynny wedi eu dwyn ronyn yn nes i'r Eglwys.

Mae straen y Nadolig yn dod i'r wyneb wrth i Kath gychwyn poeni am dreulio'r Nadolig ar ei phen ei hun, tra bod Cassie yn gorfod gwylio beth mai'n ddweud wrth i Hywel fynd dros ben llestri yn prynu anrhegion Dolig i Rhys.

Mae David Owens yn pwysleisio pa mor anodd oedd hi i berfformio a chynnal cyfweliadau a photo-shoots tran cadwr tensiwn o fewn y grwp a straen dadfeiliad perthynas Cerys a Mark yn gyfrinach.