Look for definition of stwffio in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
Y Dywysoges Namotto a roes y syniad iddo ar amser cinio un diwrnod pan oeddynt yn mwynhau pryd o wynwyn wedi'u stwffio a chaws llyffant a dail criafol mewn mel gyda saws o neithdar bysedd y cŵn drostynt.
Dyma wendid mawr y cyngerdd: roedd yr awyrgylch a'r canu yn wych ond trueni na fyddai'r trefnwyr wedi gosod sgriniau er mwyn osgoi yr holl wthio a stwffio yn ystod y perfformiad.
Dyn efo ci wedi ei stwffio a enillodd y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth ufudd-dod cwn yn Siapan yn ddiweddar.
Fel y bydd mis Ebrill yn tynnu at ei derfyn fe fydd pawb yn ceisio cau'r sŵn allan o'u tai ac yn stwffio wadin i'w clustiau, ond y mae'r cwbwl yn ofer bob blwyddyn.
Yr wythnos ddilynol ('chwanegol!) bum innau'n ddigon dewr i stwffio i mewn ac eistedd ar y silff - da- acyna prowla 'chydig o amgylch yr ogof yma heb gwmni, mae yn anodd mynd ati ac yn ddigon peryglus i raddau heb dipyn o brofiad cerdded creigiau ag ochr mynydd uwchben y mor aflonydd....
'Wnaiff hi mo'u gweld nhw,' atebodd Llio, gan ei bod wedi eu stwffio i'w bag ysgol.
Os byth yr ewch i'r Amgueddfa Brydeinig yn Tring fe'i gwelwch wedi'i stwffio ar silff, a golwg digon hiraethus arno.
Nid sach fechan tebyg i sach lo oedd hon, ond o'r un maint â sach wenith ers talwm, ac roedd hi wedi'i stwffio'n llawn dop â rupies.
"O mam bach!" mwmialodd Morfudd, a cheisio stwffio'r cudynnau gwallt yn ôl dan y cap.
Cydies yn y sosban, a honno'n poeri saim dros y carped a'r llawr, a'i thaflu allan drwy ddrws y cefn; yna rhwygo'r llenni oddi ar y ffenest, a'u stwffio o dan y tap dwr.
'Mi faswn i'n stwffio fy mysedd i'w ben o nes y byddai ei ddau lygad o'n hongian hanner ffordd i lawr ei foch.
Mae 'na ddau beth y dylid eu stwffio i'ch pen chi.
Ar ol pystachu stwffio drwy rhyw le cyfyng mae'r ogof yn agor allan ychydig ac mae dwr y mor yn llenwi'r gwaelod, 'n ol a mlaen ac yn lluchio'r trochion i fyny weithiau.
Bwtyai nhw, ar ryw ffurf neu'i gilydd, gyda phob pryd; gyda'i facn i frecwast, a'i gig i'w ginio, ar dafell i'w de ac mewn salad i'w swper; yn falurion yn ei gawl, yn sudd yn ei saws, yn stibedi o gylch ei gaws; wedi eu berwi a'u ffrio a'u stwnsio a'u stwffio.