Sylwer ar y ddau osodiad: (a) dylid cymryd penderfyniadau mor agos ag sy'n bosib at y dinesydd - ac mae ystyr y gosodiad hwnnw'n glir; a (b) dylid gwneud hynny yn unol ag egwyddor subsidiarity, ond dichon y geilw'r egwyddor honno am esboniad.
Gan mae'r Almaen fydd un o brif benseiri'r Gymuned, mae'n rhesymol credu y bydd egwyddor subsidiarity yn ffynnu'n gryfach yn ei chyfundrefnau.
Yn ol y Ddeddf Sylfaenol perthyn yr hawl i ddeddfu i'r Lander bob amser pan fo hynny'n bosib, oni neilltuwyd ef gan y Cyfansoddiad i'r Senedd Ffederal; dyna adlewyrchu egwyddor subsidiarity.
Mae'r term subsidiarity yn un go newydd yn Saesneg.
Pa derm Cymraeg sy'n cyfleu ystyr subsidiarity orau?
Mae arnaf ddiolch am yr awgrym, a hyd oni ddaw gwell gair bwriadaf ddefnyddio'r term cyfrifolaeth am subsidiarity.