Un esboniad tebygol yw fod y lliw gwyn yn ein hatgoffa o rwymynau (bandages) a'r lliw coch yn sumbol o waed.
Mae Gorsedd Lloegr yn sumbol o undod Prydain Fawr.
Ym mhob peth, roedd hi'n bosib' gweld sumbol; y peryg' oedd eu bod nhw'n fwy o sumbolau o dyb neu ramant y Gorllewin nag o realiti'r sefyllfa yno.
Ymgasglodd pawb y tu allan i'r Llyfrgell Genedlaethol (sumbol o ddyheadau'r genedl ar ddechrau'r ganrif, a lle mae nifer o'n haelodau mwyaf brwdfrydig yn gweithio) i alw am ddeddf a fyddai'n gwireddu ein dyheadau yn y ganrif newydd hon.
Y Cynulliad yw'r sumbol mwyaf grymus yng Nghymru heddiw.
Creadigaeth Cymru Gymraeg yw hi, yr unig sumbol sy'n aros o undod hanesyddol cenedl y Cymry, yr unig muthos Cymreig.
Yn niffyg unrhyw sefydliad arall, fe fynegodd y genedl ei hun trwy'r sumbol hwn, - trwy gapel oedd yn ymgorffori agweddau cymdeithasol, pensaerniol, cerddorol, addysgol, a llenyddol bywyd.
Fe allwn ddychmygu cymaint mwy yw eu hawydd i warchod yr eliffant a fu yn sumbol mor gryf o drachwant dyn yn treisio'r bywyd gwyllt.
Roedd y pawl haf yn sumbol rhyngwladol o ffrwythlonedd.
Yr oedd 'Y Bwthyn yng Nghanol y Wlad', wrth gwrs, yn sumbol rhyngwladol o'r dedwyddwch gwladaidd honedig y gwnaeth y Mudiad Rhamantaidd gymaint i'w boblogeiddio.