Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sunamganj

sunamganj

Ond, chwarae teg iddo, 'roedd y gwr addfwyn hwn yn ddigon gostyngedig i addo y deuai'n ôl i wasanaeth y Genhadaeth, pe byddai'r cynllun i weithio'n annibynnol yn methu.' Ymhlith y gweithwyr a oedd yn amlwg yn Sylhet bryd hyn yr oedd Suresh, a oedd bellach yn gofalu am Sunamganj, Jogesh, a oedd yn efrydu ar gyfer ei BA yn y coleg yn Sylhet (bu'n ffyddlon iawn yn gofalu am yr eglwys Bengali yn nhref Silchar am flynyddoedd wedyn tan ddiwedd y rhyfel, pan ddaeth amhariad ar ei gof) a Subodh Dutta, a oedd ar y pryd yn athro yn yr ysgol yn Sylhet ac yn compounder yn y dispensari yno; daeth yr olaf yn un o golofnau'r eglwys ar y Gwastadedd ac yn 'bregethwr Cyrddau Mawr'.