Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

susauna

susauna

Dilyn rhaeadrau oedd fy ngwaith yr ochr draw, saith milltir o raeadrau rhwng copa'r bwlch a phentref bach Susauna, a milltir ar ben milltir arall o raeadr a phistyll yn ymuno a phrif afon y cwm o grognentydd clasurol, o'r pantiau eira disglair y tu ol i'r cymylau, ac o lasierau cudd Piz Vadret.

Pentref bychan yr anghofiodd twristiaeth amdano yw Susauna ei hun: dau deulu o bobl ddieithr a welais hyd yn oed yn rhan isaf y cwm.

Wedi mynd trwy'r glyn cul, yr oeddwn yn cerdded trwy goedwig am y tro cyntaf, ond y mae muriau Val Susauna bedair mil o droedfeddi uwch eich pen erbyn ichwi gyrraedd Alp Pignaint, a chreigiau gwylltach eto yn gwarchod mwynder y porfeydd.