Gwyrdd plaen unlliw yw eu lindys hwy, yr unlliw ynhollol â'r dail a'u cynhaliant ac yn hoff o swatio ar brif wythiennau'r dail ac yn y cnewyllyn gan wledda ar y dail ifanc iraidd sydd yn y fan honno a difetha'r blagur tyfu (growing point) hefyd a thrwy hynny rwystro cynnydd y planhigyn.
Aeth i swatio yn ei gwt gan wneud sŵn crio drwy'r amser.
Prysurodd y tri i'r guddfan a swatio yn erbyn y mur.
Rhaid dringo tipyn eto i gyrraedd yr uchaf o'r tri llyn, Glaslyn, sy'n swatio'n glos yng nghesail copa'r Wyddfa.
Yr oedd hyd yn oed yr ychydig wylanod a welai ar y cei yn swatio yn eu cwman heb ddim i'w cynhyrfu o'u diflastod.
Gwêl Begw'r ieir yn swatio yng nghornel yr ardd 'a'u pennau yn eu plu, yr un fath yn union ag y stwffiai hithau ei phen i'w bwa blewog yn y capel ar fore Sul oer' (Tc yn y Grug).
Ynys o graig a'i bilidowcars yn teyrnasu arni, y goleudy'n gannaidd, amlinell croes Dwynwen ar las y nen, gweddillion ei heglwys yn swatio yn y pant a bae bach perffaith oddi tanoch.
Mae'n amlwg i Gwgon roi porthiant i'r tân a swatio wrtho.
Roedd yn rhaid i'r cyfeillion ddisgyn oddi ar eu meirch, swatio yn erbyn y graig, a chuddio'u clustiau rhag y sŵn.
Yr oedd presenoldeb Breiddyn a Lewis Olifer, rhyngddynt, wedi swatio pawb.
"Mae'n rhaid i mi beidio â thisian," meddai wrtho'i hunan tra'n swatio tan y gwellt a gosai ei drwyn.
Roedd y tywydd yn oer a llaith; tywydd swatio wrth y tân.
Gan ei fod ar gymaint o frys i gael swatio yn y bync i gysgu, fe anghofiodd rywbeth pwysig iawn.
Ond er iddynt dreulio dwyawr digon anghysurus yn swatio a gwylio yng nghefn y ffynnon ni welsant undyn byw a thri digon siomedig a drodd eu hwynebau tuag adref fel y teimlent y dafnau cyntaf o law yn disgyn ar eu talcennau.