Yna diffoddodd am rai eiliadau cyn ailgynnau yn swil ac anwadal.
Ond i ryw greadur bach ofnus a swil fel fi, a minnau'n edrych i fyny felly o ddyfnder fy sêt wrth yr organ tuag at ei uchelfan ef yn y Sêt Fawr wrth Fwrdd y Cymun, yr oedd edrych i'w ddwy ffroen aruthrol ar un eiliad fel edrych i ddau dwll blwmars hen ffasiwn yn bochio yn y gwynt.
Roedd hi'n amlwg ei fod yn swil iawn a phrin y codai ei lygaid i edrych ar Anna.
Ar y cyfan teulu digon swil ydi teulu'r Pincod, fel pe baent ofn arddangos eu holl ysblander.
Ar Sadwrn diwedthaf fei gwelwyd nid yn unig yn dangos cystal chwaraewr yw o gael y blaenwyr iawn o'i flaen ond hefyd yn ateb y beirniaid hynny syn ei gyhuddo o fod yn swil i daclo.
Rhydd argraff gref iawn ei fod yn nabod y llenorion y mae'n eu trafod, yn eu gweld yn fyw yn eu cyd-destun cymdeithasol, ond hefyd yn ymuniaethu â hwy fel unigolion (e.e., wrth gyfeirio at Forgan Llwyd y gŵr swil, neu wrth ddweud yn ei erthygl ar 'Weledigaeth Angeu': 'Mae'n anodd heddiw ddarllen unrhyw awdur na wynebodd wallgofrwydd'.
rh weld yr olwg swil ar wynebau'r ddwy, meddai wedyn: 'Dilynwch fi.
Peidiwch â bod yn swil i gysylltu.
Gwenodd Bethan arno, gwên swil, wylaidd, "Hai, Bob'.
Mae'r nico, yr un mwyaf lliwgar o'r teulu, tipyn bach yn fwy swil, ond fe'i gwelir mewn llawer i ardd rhai adegau o'r flwyddyn.
Gwasgodd Cadi fraich Huw, "Diolch i chi, Huw, am ddwad â ni yma." Rhoddodd Huw ei ben i lawr yn swil a gwrido, ond gwenodd yn hapus.
hynny yn rhy swil o ddim rheswm i sôn am f'anawsterau ar goedd y Cyfarfod Misol.
Roedd yn dal yn ansicr iawn o'i theimladau tuag ato ac felly'n swil yn ei gwmni'r dyddiau hyn.
er dwi ddim yn gwybod cweit sut i ddelio ag o yn aml iawn - dwi braidd yn swil.
Lle'r oedd Emli'n fyr ac yn dew, yr oedd hon yn dal ac yn denau; os oedd dwyfron Wmli'n llawn ac yn amlwg, prin y gwyddech chi bod gan y llall fronnau o gwbl; lle'r oedd Emli'n bendant ei cherddediad a phenderfynol yr olwg arni, edrychai'r llall yn swil a diymhongar a di-ddweud.
Ond, mae'r pâr swil ar eu pen eu hunain rhwng y cynfasau noson y mis mêl.
Ond yr oedd hyn yn gaffaeliad iddo pan alwai yn nhai'r aelodau, yn arbennig y rheini a deimlai hytrach yn swil ym mhresenoldeb gweinidog.
Y nos Sul gyntaf i mi yno, ar ôl i mi ddod o'r capel, meddai Mam wrthyf, "Rhaid i ti godi'n fore i fynd i'r ysgol fory." Doeddwn i ddim yn rhyw falch iawn o glywed hynny gan mai peth go fawr i fachgen swil yw mynd i ysgol newydd, i ganol plant dieithr.
''Da chi'n gynnas 'nghariad i?' 'Ydw Nyrs, diolch i chi.' 'Tydi o'n beth bach digon o ryfeddod.' 'Ydi, debyg,' atebodd Kate flewyn yn swil.
Yr oedd yn fachgen bach swil iawn, ac un diwrnod yr oedd o wedi troseddu, neu wedi cael y bai, beth bynnag, ac yr oedd fy Nhad yn rhoi'r drefn iddo.
Gwyddai'r gwrandawyr cyfarwydd i'r dim b'le i dorri ar draws ac i ba raddau.) "Roedd y fenyw yma'n wyllt ac awdurdodol iawn, a'i gwr, oedd yn ddyn tawel, gonest a swil iawn, yn methu â'i thrafod hi.
Eu cysan cyntaf, Roedd hi wedi meddwl y byddai'n teimlo'n swil pan ailgynheuid y golau.
Gan fod fy nhad oddi cartref ar y môr y rhan fwyaf o'i amser, a minnau'n unig blentyn, cawswn dipyn o faldod gan fy mam, a dyna pam yr oeddwn i'n fachgen mor swil ac afnus.
Dyn swil ac encilgar ydoedd wrth natur.
A'r tad swil!
'Fi,' meddai gan bwyntio'n swil, 'ydy'r Folk olaf 'na.'
Dyn tawel, swil yn y bôn, oedd Francis, yn troi yn ei gylch bychan ei hun, ond yn gwybod mwy am y byd mawr y tu allan na'r rhelyw o'i gwmpas.
Roedd William yn lecio cael ei bryfocio gan Cathy a gwenai'n swil wrth sipian y coffi chwilboeth.
Mae rhywun, byth a hefyd, yn cyhuddo cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru o fod yn swil ac aneffeithiol pan yw hi'n fater o werthu eu cynnyrch.
Yr oedd y gwaith yn newydd iddo, a theimlai yn ofnus a swil yng nghanol y fath gwmni.
Bedydd tân fyddai ymddangos dan y fath amgylchiadau i'r sawl a fu'n disgwyl ei gyfle'n amyneddgar ers tro byd, ond gallai fod yn brofiad dirdynnol i'r mwyaf swil o staff y swyddfa.
Weithiau cymerant yn ddistaw a swil - rhyw binsio cymryd yn union fel deilen grin yn taro'r bach ar ei thaith.
Nid yw'n swil o gynnwys cyfeiriadau ysgafn a fyddai o gryn ddiddordeb i ambell ddarllenydd.
Dyn digon swil gyda merched oedd Denzil nes iddo gyfarfod ag Eileen Walters.