Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swn

swn

Mae deng mlynedd wedi mynd heibio er pan enillodd Alun Jones Wobr Goffa Daniel Owen gyda'i nofel Ac Yna Clywodd Swn y Mor, ac roedd cyhoeddi'r nofel honno flwyddyn yn ddiweddarach yn garreg filltir go bendant yn hanes y nofel Gymraeg.

EFFEITHIAU: AWYR, DWR, SWN UCHEL A DIRGRYNIAD Y TIR: Arolygir y rhain yn uniongyrchol gan y Grwp a chan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod Dosbarth.

Roedd Mr Godfrey wedi addasu adeilad pren ar ei dir ym Moelfre, ger Abergele, i fod yn stiwdio gerdd gan gynnwys rhoi defnydd i atal swn ynddo.

Efallai fod y reverb sydd wedi ei roi wrth gymysgu, wedi effeithio ar gryfder swn yr offerynnau gwreiddiol ac o ganlyniad mae'n tynnu oddi ar y gân.

Sawl tro yng nghynffon y gân maen troin offerynnol cyn i'r llais ddod i mewn eto ar gân yn gorffen gyda swn chwibanu.

Swn y fagnel ar y bryniau, Gwaed y dewr ar dwrf y rhos, Angau'n casglu ei ysgubau Cyn aeddfedu gyda'r nos.

Yr unig swn yno oedd peiriannau amaethyddol, bywyd gwyllt, anifeiliaid fferm a nentydd.

Dywedodd nifer o bobl wrth Lowri Davies a Bethan Elfyn iddynt ddod yno i weld Estella yn canu oherwydd eu swn unigryw.

Ac fel tasa hyn ddim yn ddigon, roedd y Sbaenwyr ar Ffrancwyr nad oeddynt mewn dosbarthiadau'n arbenigo mewn sgio dros fy sgis, fy nharo hefo'u polion a gwneud swn llithro fel 'avalanche' y tu ol i mi.

'O?' 'Efo Ifan Paraffîn, yn y bus.' ''Ron i'n meddwl 'mod i'n gweld gola' ac yn clywad rhyw swn pan o'n i'n cau ar yr ieir.' Sylweddolodd Dora Williams ei bod hi'n sefyll yn llond y ffenestr yn ei choban, yn wyneb llafn o olau lleuad, a theimlodd ei hun yn cael ei dadwisgo'n gyflym.

Mynnodd Rhian gael mynd i ysgol breswyl y Santes Fair er mwyn dianc o swn ffraeo Reg a Megan.

Yn sicr mi fyddwn ni yn chwarae caneuon Bysedd Melys yn aml iawn ar Gang Bangor gan eu bod yn meddu ar swn aeddfed iawn a chaneuon syn gofiadwy.

Daeth swn llesmeiriol tonnau'n taro'r creigiau i'n clyw, brysiodd sgwadron o hwyaid heibio a glanio fel pe ar orchymyn arweinydd i nofio'n gytun.

Mae'r arddull yn unigryw o fewn y sîn yng Nghymru ac yn torri'n rhydd o'r drefn arferol a'r swn indie mae llawer o grwpiau yn ei ddefnyddio.

Roedd swn Cerddorfa Opera Cymru yn odidog nos Sul ond neithiwr yr oedd Cerddorfa'r BBC fel pe'n fwy ystyriol o'r cantorion.

A rhywun arall hefyd! Stuart a Kelly o'r Stereophonics syn achosi swn sgrechen ymhlith y merched ifanc tu ôl i'r ffens.

Roedd yr haul yn disgleirio ar wydr y ffenestri mawr a deuai swn lleisiau'r morynion prysur o'r gegin.

Os gwrandwch chi yn astud mi ellwch jest glywed, yn y pellter, swn y Gorila Gwyllt, sef 'y mrawd mawr, hynod o siaradus, Gari.

Mae yna swn llawn iawn gyda swn organ Pwdin yn ychwanegu dyfnder.

Yr oedd y swn yn yr ystafell yn fyddarol ac o fewn dau funud meddai wrthyf 'This is absurd come with me'.

Mae Joe yn brysur iawn ar yr albym gan mai swn unigryw ei allweddellau sy'n agor y gan yma eto, ac mae Justin hefyd yn amlwg ar yr organ geg.

Roedd yn gyflym ei feddwl,yn uchel ei gloch, a'i ddyfodiad i dy neu feudy, gyda'i chwiban neu'i gan, yn orcestra o swn; yng nghwt y moch ei wich o a fyddai uchaf, a lle na byddai roedd rhialtwch fel pe bai wedi colli'i denantiaeth.

Yn ôl y grwp, mae'r ddwy gân arall wediu cynnwys ar yr EP er mwyn atgoffar gwrandawyr sydd wedi anghofio amdanyn nhw yn ystod eu tawelwch, ac o gymharu rhain âr gân newydd, mae'r datblygiad yn swn y grwp yn amlwg.

Atolygwn arnat, serch hynny, i ...' Tagwyd y weddi gynnes cyn iddi gyrraedd ei hanterth gan swn Pyrs, y coetsmon, un heglog ar ei orau, yn darn-lusgo cist ei feistres drwy ffrâm gyfyng y drws allan.

Mae'r cytgan yn aros yn eich pen ac yn nes at ei diwedd mae lleisiau'r merched sy'n canu cefndir yn atgyfnerthu'r swn.

Clywodd y llys ei fod wedi caniatau i fandiau roc ymarfer yno er fod Cyngor Conwy wedi cael gorchymyn llys yn Awst 1998 i'w atal rhag creu swn.

Roedden nhw'n honni na allen nhw aros yn eu gardd oherwydd y swn.

I gydfynd â swn amrwd y gitars mae yna riff cofiadwy iawn yn rhedeg drwy'r gân ac i Pwdin a'i allweddellau mae'r diolch am hwnnw.

'Roedd yr awyrgylch yn drydanol - swn anfarwol.

Roeddwn i wedi synnu, gan fod rhai o'r ffenestri heb gaead o unrhyw fath, a byddai'n ddigon hawdd clywed swn siarad pe bai rhywun yno.

Ers rhai blynyddoedd bellach maent wedi cyflwyno eu hunain fel y "Banc sy'n gwrando%, ond mae'n amlwg i bawb erbyn hyn mae gwrando ar swn yr arian yn y

Es i gysgu yn swn y morloi yn canu...

Medrwn flasu a chlywed arogl, clywed swn, cyffwrdd a gweld pethau o'n cwmpas.Gweld yw'r synnwyr pwysicaf.

Annheg, efallai, yw eu cymharu ag arddull y Divine Comedy ond y mae yna debygrwydd yn y math o swn sy'n cael ei gynhyrchu.

''Swn i'n hoffi cannoedd o gwn,' meddai.

Dafydd: Mwynhâd yw canu a gigio - does dim angen neges dim ond swn da.

A 'da chi ddim wedi talu'ch ffer 'chwaith.' Fel roedd William Huws yn croesi'r cae, a'r hen hwch yn igam-ogami'i rhyddid newydd, clywodd swn traed cybiau'r sêt gefn yn trybowndio i lawr grisiau'r bus dan siantio'u gwrthryfel dros y wlad dywyll, agored.

Mi fedr lleidr guddio ei edrychiad a newid swn ei lais, ond fedr o ddim cuddio rhywbeth fel cloffni." "Ond, dydwi ddim yn deall," meddai Catrin Williams.

Y pnawn hwn roedd gwers neu ddwy eto rhyngddynt a'r gloch pan glywsant swn car yn nesa/ u at fuarth yr ysgol.

mae'r dechrau yn effeithiol iawn gyda swn gwynt a llais plentyn bach yn y cefndir.

Petai rhywun yn mynd i gymharu'r swn gyda cherddoriaeth dros y ffin, yna mae'n hawdd clywed tebygrwydd â grwpiau fel y Specials, Bad Manners a Madness.

Ar y nos Sadwrn (Ionawr 16), bydd Twm Morys ac Iwan Llwyd yn cynnal noson o adloniant, 'Cadw Swn', yn y Cwellyn Arms, Rhyd-ddu.

Y porthladd yn llawn o gychod wedi eu haddurno a baneri ac wrth i'r orymdaith ddirwyn i ben llenwir yr awyr a swn byddarol MIG 16s yn hedfan heibio.

Doedd dim swn siarad i'w glywed yn unman, dim smic o SWll yn unmall.

Chewch chi ddim gwisgo coban ganddyn nhw os na fedrwch chi ddyfeisio llinellau yn gyflym fel 'Cosi bol Casi bach' - sydd yn farddoniaeth bur medda nhw oherwydd rhyw gleciadau swn sydd o uwch gwerth na throsiadau barddonol.

Roedd swn cyson y chwib yn cyflym yrru'r ast yn wallgo, a meddai Roci wrth y crwt bywiog.

Mae Bae'r Môr Ladron yn drac reggae dub bendigedig gyda Geraint Jarman yn ei leisio - mae'n creu naws drwy'r defnydd o ddrymiau ac amrywiaeth o effeithiau swn - effeithiol iawn.

Roedd y dref ei hun yn dawel - dim ond ychydig o drigolion i'w gweld er y codai swn bargeinio brwd o'r farchnad y tu allan i waliau'r castell.

O wrando ar y ddau drac cynta fe ddengys fod Topper chydig yn fwy mellow nag a fuon nhw syn rhoi swn newydd i'r grwp.

'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.

Chafon ni ddim hyd yn oed recordio swn y mân siarad yn eu mysg tra'r oedd lluniau yn cael eu tynnu.

Rhaid cyffesu fod dirywiad y traddodiad canu mewn llawer capel wedi bod yn ergyd ddwys i'r swn llawen y mae'r Salmydd yn ei annog.

Hydref ddail, dorf eiddilaf - sy'n eu trem Yn swn troed y gaeaf, Treulient eu horiau olaf Ar ingol ddor angladd haf.

Dechreua'r trac agoriadol gyda swn dwr yn llifo ac mae'n agoriad effeithiol i'r gân Dysgu Nofio - un o uchafbwyntiau Clockwork.

Draw ymhell yng nghanol y mynyddoedd, roedd gynnau'n tanio; gallem glywed eu swn yn cystadlu â thrwst y taranau glaw.

Yr unig swn oedd cyfarth y cwn a ddefnyddid i ddod o hyd i ffrwydron.

Efallai fod y wybodaeth mewn llyfr, efallai mewn nodau swn, efallai mewn tonnau a phelydrau goleuni ac yn y blaen.

Gallai glywed swn plant yn chware yn rhywle.