Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swnio

swnio

Mae diwedd y fileniwm yn swnio'n bell i ffwrdd; tydi o ddim.

At bwrpas darlledu lle maen bosib dod â chydbwysedd i'r hyn â glywir fe fydd yn swnio'n hyfryd.

… ond does dim angen poeni, gan fod y gitâr flaen yn swnio llawn cystal – os nad yn well – ar y gân olaf, sydd yn ddiweddglo naturiol i'r EP.

Mae hi yn sicr yn stori o lwyddiant o dan amgylchiadau sy'n swnio'n ofnadwy.

Nid wyf yn cofio ddim rhagor, ond ein bod wedi mynd i'n gwelyau yn go hwyr, ond cyn i ni gysgu, dyma gloch Anti yn swnio, am y tro cyntaf, a'r dro diwethaf hefyd.

A thra byddai un yn gweddio ar ei liniau, yr oedd pawb yn gweddio a'r lle yn llawn o 'Amen' ac 'Ie, ie!', yr hyn oedd yn swnio yn hynod o ryfedd i ni ar ôl cyfnod mor fawr o ddistawrwydd a chysgadrwydd gydag achos lesu Grist.

Mae creaduriaid o'r fath i'w cael yn y Dwyrain Pell ac y mae'n swnio'n debyg fod dwy ohonyn nhw wedi dod draw acw ac yn ymladd unwaith y flwyddyn.

"Ie." "O?" "'Dŷch chi ddim yn swnio'n falch iawn, Beti!" "Wel..." "Castell Dracula," meddai Dic.

mae'n fy mhoeni braidd bod ôl-foderniaeth yn dechrau swnio yn fformiwli%og.

Mae'n swnio'n ffordd ddelfrydol o wneud bywoliaeth.

Byddai Mrs Owen, Cae Du, yno i "swnio yr alaw% iddynt.

"Maen nhw wedi bod yn gefnogol ac - mae o'n swnio'n cliched, dwi'n gwybod, ond - maen nhw wedi agor eu drysau i ni." Chwe awr o drafod syniadau, o actio byrfyfyr, o benderfynu ac o baratoi y mae Carys yn ei gael gyda phob grwp cyn recordio'r achos a hynny'n ddi- sgript, o flaen y camerau.

Er mor boncyrs mae'r holl senarios dychmygol uchod yn swnio, mae nhw i gyd yn seiliedig ar gymalau go iawn yn y Mesur Terfysgaeth 2000.

Yn anffodus, mae'r agwedd benagored yn swnio'n betrusgar ansicr, ac yn debyg o gael ei beirniadu oherwydd ei hanwadalwch.

yr amser y mae'r bom i fod i gael ei thanio; ble y gall y bom fod wedi'i gosod; oed, rhyw, acen ac unrhyw arwydd o gynnwrf, tensiwn neu fedd-dod yn y sawl sy'n galw; p'un a yw'r alwad wedi'i gwneud o flwch ffôn, wedi'i deialu i mewn neu yn dod o estyniad mewnol; p'un a oedd yr alwad yn swnio fel bod y sawl oedd yn galw yn darllen neges oedd wedi'i baratoi neu beidio.

Hwyrach fod yna well ffyrdd o fynegi'r uchod ond, yn anffodus, er mor ddeniadol y mae'r 'Drydedd Theori' yn swnio mewn crynodeb, yr un yw arddull gweddill 'Y Llyfr Gwyrdd'.

Mae'n swnio'n iawn.

Er y gall hyn swnio fel esthetigiaeth, sef dyrchafu celfyddyd er ei mwyn ei hun, nid dyna a olygir.

Cododd yr hen Fusus Owen o'i chadair i "swnio yr alaw% iddo.

Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw wedi agor unwaith eto ar ôl y cyfnod byr o seibiant dros fisoedd y Gaeaf, ac mae'r paratoadau a'r rhaglen arfaethedig yn swnio yn ddiddorol ac yn amrywiol iawn.

Mae yna ddigon i bawb yma." Er ei fod yn swnio'n hael ac yn garedig, nid oedd golwg rhy hapus ar wyneb y tafarnwr.

Ac eto y mae caneuon ac alawon gwerin traddodiadol gwledydd fel Sbaen, Iwerddon a Romania wrth fy modd, yn enwedig pan mae nhw'n swnio fel petaent wedi tyfu o bridd y gwledydd yna.

Fydda'i ddim yn swnio fel pe bawn yn busnesu wedyn." Troes Breiddyn wrth godi o'i sedd, a'm gweld.

Mae Vasas o Budapest yn swnio ... dwin meddwl y gallen ni ei gorchfygu nhw dros y ddau gymal - fyddan ni ddim yn anhapus ou cael nhw.

Mae'n ddrwg gen i, 'doeddwn i ddim yn bwriadu bod yn anfoesgar.' 'Roeddech chi'n swnio'n hollol fwriadol.' O'r gorau, bwriadol oedd o.

Roedd babanod yn crio a phlant yn sgrechian a gyrrwyr yn swnio hwteri eu ceir a'r bobl yn y farchnad yn gweiddi ar y prynwyr i ddangos beth oedd ganddyn nhw ar werth.

Na pam mae 'i Gymrâg e'n swnio'n ddierth i ni..." Yr oedd cael bod yng nghyffiniau Y Plas ac Eglwys Sant Cunllo'n nefoedd i mam, ac nid oedd hast arni i ddod oddi yno, a siaradai â phawb, a phawb gyda hi.

Mae yna reolau pendant i'w dilyn ac os 'dach chi'n gwneud llinell sy'n iawn yn gynganeddol - ac yn swnio'n iawn - 'dach chi'n gwbod bod hi'n iawn.

Ceisiodd ddweud hynny wrtho drwy'r beipen ond roedd yntau hefyd yn swnio'n hollol wirion i'w frawd.