Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swnllyd

swnllyd

Neidiodd o'i groen bron pan ehedodd aderyn yn swnllyd o'r goeden wrth y wal a chwarddodd yn uchel wrth ei weld ei hunan yn gymaint o fabi.

Gorsaf y rheilffordd yn anhygoel, hyd yn oed ar ol gweld ffilm 'Ghandi' - yn orlawn mewn modd na ellir ei ddychmygu heb ei weld, yn swnllyd, yn fyglyd, nid yn unig gan stem ond gan fwg y gwahanol stondinau sy'n coginio ar y platfform.

Byddai'n llawer gwell ganddo wynebu'r Almaenwyr na'r criw swnllyd yma.

yn y stryd roedd popeth yn dawel ar ôl y ddawns swnllyd.

Ei chynnig olaf i geisio tawelu pethau oedd dod o hyd i gerddoriaeth roc eithriadol o swnllyd ar y radio a'i droi i fyny'n fyddarol o uchel.

Protestia nifer o'r pentrefwyr yn erbyn hyn, gan ddymuno cyfiawnder i ti, ond fe gollant y dydd yn erbyn cefnogwyr swnllyd Maelgwn Magl.

Wrth bwffian fel taid i fyny i'r man gwylio, gwelais wraig ifanc yn gwthio pram yr holl ffordd a gwr arall yn cario plentyn swnllyd fel iau ar ei ysgwyddau.

Bu cudyll o hofrennydd uwch ein pennau drwy'r prynhawn a'i chysgod swnllyd, symudol, yn dychryn wyn y ffridd i bob cyfeiriad cyn glanio i lyncu criw o actorion a throi porfa'r ddôl yn gryndod o nerfau.

Yno 'roedd ymwelwyr fel gwenyn yn potio o gwmpas y dŵr, yn addasu'r camerâu'n ffwndrus i gasglu atgofion am yr ewyn gwyn yn disgyn ddawnsio'n swnllyd i'r ffrewyll.

A bod yn onest hen arferiad diflas a swnllyd oeddwn i yn ei gael o.

Crensiai'r eira dan eu traed wrth iddynt heidio'n swnllyd a Jean Marcel yn eu harwain tuag at y seidin unig.

Cynyddodd y sŵn wrth iddynt gyrraedd drws y neuadd a chanodd cloch yn uchel ac yn swnllyd.

Yn hen borthladd llewyrchus y dyddiau a fu, roedd mwy o deimlad prifddinas ryngwladol a rhythmau masnachol i'w clywed yn rhygnu'r lori%au a llusgo swnllyd y trêns.

Gafaelais yn y ffôn swnllyd a dweud 'Hello' digon ffyrnig a blîn.

Daeth Ysbrydegaeth, er enghraifft, yn faes i'w ystyried o ddifrif; y mae cyfarfodydd se/ ance mewn bri; sonnir yn aml am poltergeist (gair Almaeneg yn golygu 'ysbryd swnllyd'); cynhelir gwasanaethau yn eglwysi'r Ysbrydegwyr; a cheir galw cyson am wasanaeth gwþr megis Y Parch.

Toc, daethant at dŷ bwyta swnllyd ar gwr y dref.

WALI: (Deffro'n swnllyd) Wha!

Eisteddai Henri yn llewys ei grys wrth fymryn o dân nwy swnllyd.

Diddorol Diflas Golau Tywyll Tawel Swnllyd Diogel Ddim yn ddiogel Del Hyll Glan Budr

I Merêd roedd holl awyrgylch y lle'n amheuthun - y symlrwydd cyntefig ac yn arbennig yr heddwch perffaith heb na cherbydau swnllyd na phobl drystfawr i'w ddifetha.