Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swp

swp

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

Ymhell cyn cyrraedd y gwaelod 'roedd llinynnau'r coesau'n tynnu a gwasgu, a blaen bysedd traed yn swp yn nhu blaen ein sandalau.

Roedd sawl un, wrth gerdded heibio, wedi datgan yn ddistaw bach ei ryfeddod nad âi'r swp gwlân yn ddim llai o un pen y diwrnod i'r llall, er gwaethaf dyfalbarhad yr hen wraig.

Swp pys Mam efo golwythau o ham cartra ynddo fo, a tharten afal I ddilyn.

Ond i'w chymdogion arwynebol ac i weddill y pentrefwyr, yno y byddai hi bob amser, ar stôl deirtroed o flaen drws ei bwthyn, yn nyddu, a swp o'r gwlân Cymreig gorau ar y llechen las wrth ei throed.

"Na," meddai gn godi'r siwt fach neilon oedd yn swp gwlyb ar y llawr, "dydw i ddim yn mynd i'ch curo chi er eich bod chi'n llawn haeddu hynny, ac fe fyddwn i wrth y modd yn crasu'ch pen ôl chi."

Daeth niwl dros ei lygaid, a syrthiodd yn swp ar y gwair.