Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swpar

swpar

Rhaid iti wâdd rhywun i swpar os wyt ti am gwmni.

'Fyddwch chi ddim angan swpar felly?' 'Ga'i damad efo Miss Willias, unwaith bydd yr hwch a finna' wedi landio.' 'Ffansi.'

Yn ôl yr hen Asteciaid; duw'r aer, Quetzalcoatl - leciwn i ddim bod yn fam iddo fo yn gweiddi arno fo o ben drws cefn tū am i swpar - ddaeth â hadau'r goeden Cacao o Baradwys i'r ddaear.

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

I mewn i'r fasged fawr yr aethon nhw i gyd i'w cario adra, ac mi 'u rhannwyd nhw wedyn, fel bod 'na ddigon i swpar yn Cae Hen a Nant-y Wrach.

Pan ymwelodd Cortez Fawr â llys y Brenin Montezuma - un arall fydda'n gorfod byw heb ei swpar tasa fo'n byw yn tū ni - gwelodd fod hwnnw'n yfed hanner can cwpanaid o siocled y dydd.

"Gawn ni ffîd yn tū ni y flwyddyn nesa% ebe Eurwyn, "swpar dyrnwr go iawn" "Golwg wedi blino arnat ti, Arfon" ebe Glenys gan roi ei llaw oer dros ei law o.