Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swta

swta

Mae'n ddrwg gennyf orfod eich codi o'r gwely, meddai'r Arolygydd yn swta, ond mae gennyf warant i chwilio'r tŷ yma,' a chan chwifio'r papur yn ei law camodd dros y trothwy.

Toc, agorwyd y drws gan blismon tew swta.

'Paid ti â gofidio am hynny,' oedd yr ateb swta.

Dyma pam roedd hi mor swta ac annymunol.

Brathodd Abdwl ei ben i mewn drwy'r drws ac meddai'n swta, Tyrd allan.' Cododd Glyn ac aeth am y drws.

Dywedodd wrthyf un tro, fod ei fywyd bore oes i'w gael yn Y Pentre Gwyn - cyfnod y chwaraeon, y potsio, yr hel priciau yn y goedwig, y cyrchu dwfr o Ffynnon Dolafon, ac mai darlun ohono ef sydd yn 'John Ty Pell', ac yn Y Golud Gwell fel 'Arthur Puw,' sef y bachgen y byddai pobl yn gofyn i Betsi Puw - 'Ai eich bachgen chwi ydyw,' pryd yr atebai yn swta - 'Y fi sy'n ei fagu o'.

Cydnabyddiaeth ddigon swta a gafodd hi y bore hwnnw, ond 'roedd hi'n rhy oer i ddal ato: 'Mi ddeudodd yn glir y bydda hi'n ffonio'.

"Ma gin i ishio llonydd hefo nghinio." Trodd y dyn canlyn ceffyl o'r swyddfa'n siomedig a mynd yn ôl at ei waith wedi'r derbyniad swta yma.

'Peidiwch â thrafferthu i ymhelaethu, Miss Richards,' meddai'n swta.

Meddai wrthyf cyn diflannu i weithio ar ei haraith 'Diolch i chwi am ei gwneud yn hawdd i mi drwy eu rhoi yn y mwd iawn gyda'r stori wych.' Wel, yr oedd yn gwybod sut i blesio a gwerthfawrogi--yn wahanol iawn i'w rhagflaenydd swta!!

Atebodd yn swta, 'Paid â bod mor wirion, Geth!' a herciodd ymlaen.

Yna meddai hi, 'Welsoch chi Ceri dros y Sul?' 'Do,' daeth yr ateb swta.

'Be am inni ofyn barn Huws Parsli am hynny?' meddai Nel yn swta.

O chdi sy'n gwybod, atebodd Charles yn swta.

'Sdim cynffon i' gael gydag Anti Meg, y crwt twp!' Torrodd sylw swta Mini ar draws fy myfyrdod.

'Mi ofynna i iddi,' meddwn yn swta.