Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

swynol

swynol

Roedd symffoni hynod swynol yn cael ei chwarae a chefais ar ddeall wedi i'r rhaglen orffen mai Symffoni Cyntaf Vasily Sergeyevich Kalinnikov ydoedd.

Yn y cyfamser gwenodd yn swynol ar feistr y tū, a moesymgrymodd cyn ymadael i fynd i'r boudoir a neilltuolwyd i'r merched.

Wrth i mi baratoi'r ddarlith hon yr ymateb a gawn, gan y canol oed yn ogystal a'r hen pan soniwn am y testun, oedd 'Fe gefais siglo llaw ag Elfed' neu 'Fe glywais Elfed yn pregethu sawl tro', a'r son wedyn, bron yn ddi-ffael, am y llais swynol i'w ryfeddu a oedd ganddo.

Mae na hen ddisgwyl wedi bod am yr ep gyda chwe chân swynol iawn.

Er nad yw Dyfrig yn ...gallu meddwl yn glir ai ben mewn anialdir maen syndod fod ei lais cystal efor dolur gwddw - dyma lais Dyfrig ar ei orau gyda harmoneiddio cryf a melodi swynol dros ben - cynnyrch yn amlwg o'r un ffatri a Cwsg Gerdded.

Can hamddenol sy'n hynod swynol.

Enlli yw'r ynys swynol ger arfordir Gogledd Cymru sydd wedi bod yn hudo ymwelwyr ers miloedd o flynyddoedd.

Llais soprano swynol a thlws iawn, yn arbennig lle'r oedd galw am berfformiad tyner.

Cafwyd perfformiad swynol yn y Lieder gan y soprano o'r Iwerddon, Franzita Whelan, cystadleuydd cynta'r noson.

Mae cariad wedi taflu rhwyd O sidan am fy nwyfron Per swynol rwyd o wead serch Y ferch a bia 'nghalon Ac yn y rhwyd 'rwy'n byw a bod Ni fynnwn fod ohoni Ac yn y rhwyd y gwnaf barhau Nes gwnawn ein dau briodi.

Er mor swynol yw'r llais mae rhywbeth yn dweud wrthyt mai lle dieflig yw hwn.

A yw ei seiniau mor swynol, ei mydryddiaeth mor gampus, ei delweddau mor gain, fel nad yw ei hastrusi yn wendid difrifol iawn ynddi?

Cychwynnwyd y gystadleuaeth yn swynol gan y baritôn Nigel Smith o Canada.

mae'r gân syn cloi yn swynol iawn, gyda'r sacsoffon yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol a chryno.

Trac offerynnol ydi Hamfatter ac fel gyda phob cân debyg mae yna duedd iddi fod braidd yn undonog ar brydiau - ond fel gyda'r caneuon eraill ar yr EP mae yma gerddoriaeth sydd yn eithriadol o swynol.

Roedd hi'n ferch hynod o ddeniadol a gosgeiddig ac ar adegau gallai ymarweddu'n ddigon swynol.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.