Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

syber

syber

Ceir hwyl glerwrol yn llawer o ganu'r Nant, ond molir yr abad ganddo'n syber ddigon, gan ddweud ei fod yn 'Cynnal Ehangwen fel Sion Abad Hen' 'wrth ganu gloria'.

Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.

Gwesteion y noson oedd Mr Dewi a Mrs Magdalen Jones o'r Benllech a chafwyd adloniant syber a phwrpasol iawn ganddynt, sef adrodd barddoniaeth gan Mr Jones a chanu hyfryd Mrs Jones.

Fe'n cymhellodd inni fwynhau'n hunain ymhob dull posibl, ac i beidio â "chicio% Iwgoslafiaid, gan eu bod yn bobl syber a pharod eu cymwynas.

Y mae ef yn dal fod yr Hen Ymneilltuaeth syber, ddeallusol, oeraidd wedi marw ac Ymneilltuaeth newydd wedi codi o'i llwch, a'i brwdfrydedd yn cael ei fegino gan awelon cynnes y Diwygiad Efengylaidd.