Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

syched

syched

Syched amgen na newyn a'u gorfododd i angori a chyrchu tua'r lan yn y diwedd.

Yna, byddai'n cardota ei ffordd adref gan ddibynnu ar raffu celwyddau a phob math o gampau er mwyn cael bwyd a swUt neu ddau i dorri'i syched.

'Na gwall, na newyn, na gwarth, Na syched fyth yn Sycharth.'

Gyda'r Deri yn wag a busnes yn brin, maen rhaid i Diane feddwl am gynllun yn reit sydyn i roi syched ar bobol a'u denu i'r dafarn.

Mae he'n gan mlynedd namyn wythnos ers i'r meini fynd lawr at yr afon i dorri eu syched ddiwethaf." "Felly, ymhen yr wythnos, bydd y meini yn codi a phowlio i lawr i'r cwm unwaith eto?" meddai'r asyn.

Pe gadawent eu gwersyllfa druenus a'r ffynnon ger y balmwydden, marw o syched fyddai eu hanes; ped arhosent, marw o newyn.

Yn araf gwasgarodd y dorf, yr awydd am ymladd wedi'i ddeffro, a dau o'r plant iau yn dechrau arni, ond dim ond ein dynwared ni oedden nhw, ac ni allai smalio tila felly fyth ddigoni syched y dorf am waed go iawn.

Ymddeolodd yntau o'r mor tua'r un adeg ag y dychwelodd Snowt o Lundain, a chan eu bod yn dioddef o'r un syched, aeth y ddau'n dra chyfeillgar, a phan drowyd Sam dros yr hiniog gan wraig ei lety rhannodd Snowt ei lety gydag ef.

Troes o'r bar ar ôl yr ymdrech dila honno i ddiwallu syched ei chymydog a chanfod un o griw bychan a safai yn ei hymyl yn codi'i lygaid mewn cyfarchiad wrth ei gweld.

Mae rhai ohonynt yn dal i dyfu, meddir, ac mewn mannau eraill mae'r cerrig yn codi ac yn mynd i ymolchi neu i dorri eu syched mewn afonydd neu yn y môr ar un noson arbennig.

"Ceisiwch, medd Rhigyfarch, "y ffynhonnau dyfroedd a dyrr eich syched, dyrchefwch eich llygaid i fyny, a gwelwch y ceinder a'r harddwch sydd fry.

Fe gaiff Juice gyfle i dorri'i syched ar Ffordd Farrar unwaith eto.

Crafu byw'r oedd y bobl pan gyrhaeddon ni ac, er nad oedden nhw lawer mwy cyfforddus eu byd pan adawon ni, ni fyddai neb yn marw o newyn na syched.

Tipyn o bwysau oedd cario bob un botel gwart o sudd oren ar ei gefn, ond yr oedd cael digon o ddiod i dorri syched yn iawn digonol am y drafferth o gario'r bwrn.

'Neith i gnesu, er 'i fod o fel wermod.' 'Mi gofi'r nawfad gorchymyn, Pyrs?' Ond, hyd yn oed os cofiai'r coetsmon orchymyn yr Hen Destament i beidio â lladrata, ni chaniatâi ei syched iddo ufuddhau iddo.

"Ac mae syched arnom ni achos dim ond un cwpan sydd yn y tŷ," meddai'r dynion bach od.

Ardal y Peak yw ffynhonnell dŵr Sheffield hefyd ac wrth i syched y ddinas dyfu, felly y tyf y galw am foddi mwy o dir i greu argaeau.

Ond doedd dim un ohonyn nhw yn gallu cael diod pan fyddai'r lleill yn gafael yn y cwpan, ac mi fydden nhw'n gweiddi, un ar _l y llall, "Dydw i ddim wedi cael diferyn!" "Na finnau chwaith!" "Mae 'na de wedi mynd i'm llygaid i!" "Ac mae 'na beth yn fy ngwallt i!" "Ac mae 'na dipyn wedi mynd ar fy nghrys i!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn cael diod iawn yn y pnawn ac mi fyddai syched arnyn nhw.