Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

syfrdan

syfrdan

Saethu'n syfrdan tuag at y ser.

Yn Epynt Without People disgrifia'r distawrwydd syfrdan wrth i'r swyddog yrru i ffwrdd.

Doedd y bobol hyn erioed wedi arfer colli, a dalient i eistedd yn eu seddau yn hollol syfrdan.

Tacteg dda, oherwydd pan 'syfrdan y safent hwythau' cawn innau gyfle i ail gychwyn a rhoi ychydig o bellter rhyngddom iddynt gael gwneud yr un peth eto, ac eto ac ETO!

Rhedai'r cwestiynau haerllug drwy ei hymennydd, un ar ôl y llall wrth iddi sefyll yn syfrdan yng nghanol yr orsaf wasanaethau.

'Argol!' ebychodd Ffredi'n ddryslyd ac eistedd yn syfrdan.

A'r gymdeithas ei hun yn syfrdan daeog.

Dyna yw casgliad y bobl yma, ac mae'n cyd- fynd â'r ffeithiau.' Edrychodd y ddau arall arno'n syfrdan.

Ac os mai syfrdan yw lliwiau'r hydref yng Nghymru, beth am y syfrdan o weld y coedwigoedd llydan ddail yn nhaleithiau dwyreiniol Unol Daleithiau America.

Gorweddai yno'n syfrdan, ei grys am 'i ganol a'i din a'i geillie briw yn destun gwawd hiliol i ambell wag a eisteddai gerllaw yn y coridor.

Ond er nad oeddynt yn deall eu sgwrs gwelsant wyneb Miss Davies yn newid, a'i llygad yn fawr a syfrdan wrth iddi wylio'r dyn cefnsyth yn troi ar ei sawdl a brasgamu yn ôl at y drws.