Edrychodd yr athro'n amheus arno, er i Hector egluro'n eiddgar wrtho ei fod wedi astudio'r pwnc yn yr ysgol, ond heb grybwyll na bu ei lwyddiant, a dweud y lleiaf, yn syfrdanol.
Mae'r pamffledyn yn ddarn syfrdanol o feddwl hanesyddol a phroffwydol, a hwnnw wedi ei fynegi mewn rhyddiaith rymus, baradocsaidd yn aml.
94 mewn 52 o gemau prawf yn syfrdanol.
Pwnc llosg arall a gafodd sylw manwl ar y rhaglen hon oedd lefel syfrdanol amddifadedd mewn rhai ardaloedd gwledig a phroblem camddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau - pynciau a gysylltir yn amlach na pheidio ag ardaloedd trefol.
Mor syfrdanol yw dy gariad, Arglwydd ein Duw!
Wrth droi cornel o'r llwybr daw'r pen pellaf, o'r penrhyn i'r golwg, golygfa syfrdanol.
Nid yw hon ond enghraifft syfrdanol o fethiant economegwyr cyfalafol dros gyfnod o hanner can mlynedd.
Er hynny, roedd prydferthwch rhai o ferched y cwmni a oedd nawr yn trefnu i wersylla ochr yn ochr a'r Senwsi yn syfrdanol ac annisgwyl.
LIWSI: Mae gen i newydd syfrdanol....
“Bu Hoff Gerddi Cymru yn syfrdanol o boblogaidd ac y mae'n fwriad gennym gyhoeddi sawl casgliad o gerddi gwahanol er mwyn cael cyfres o lyfrau barddoniaeth y bydd pawb yn mwynhau eu darllen.
Cyhoeddodd dri llyfr - y Llythur ir Cymru Cariadus, Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod a Llyfr y Tri Aderyn (a defnyddio ei deitl poblogaidd), - a thrwyddynt arllwys ar wlad fach, na chawsai syniad gwreiddiol er pan genhedlodd John Penry, genlli o feddyliau dierth, a'r rhai hynny wedi eu cyflwyno mewn dull ac ieithwedd a oedd yn syfrdanol o newydd.
Mae pob un o'r pymtheg "cam", neu'r mannau y cyfeirir atynt, yn datgelu ei ran mewn hanes a chwedl, a hynny'n aml drwy ail-greu'r gorffennol yn syfrdanol o fyw gyda thechnegau sŵ'n a golau.
Wrth deithio i Gynhadledd Merched y Wawr yn yr Hydref, mae'r gwahaniaeth rhwng coedydd bythwyrdd duon y Ganllwyd, a lliwiau'r coed llydan eu dail yng ngoedydd Dolgellau yn syfrdanol hollol.
Prin yw delweddau felly - ond yn ystod yr žyl y mae'r cyfle i chwilio am ddelweddau yn adderchog gan fod y dewis mor eang ac yn gyfoethog, yn syfrdanol o amrywiol ac yn wirioneddol ryngwladol, ac eto'n Gymreig yn yr ystyr orau; yn fodern; yn gyffrous, yn gyfeillgar, yn barod i groesawu diwylliant pentre'r byd.
Newidiodd pethau yn syfrdanol pan gwympodd Lisa mewn cariad am y tro cynta a hynny gyda Fiona.
Ym myd natur ceir enghreifftiau syfrdanol o greaduriaid sydd wedi llwyddo i ymaddasu i'w hamgylchedd yn ogystal ag olion y rhai a fethodd, megis y dinosoriaid diflanedig.
Yn y lle cyntaf mae gwerth y bunt wedi newid yn syfrdanol, ac yn ail, mae'r Eisteddfod ei hun wedi ehangu ei gorwelion i radau na freuddwydiwyd amdanynt ddeugain mlynedd yn ôl.
Yn ystod ei garchariad yno cafodd amryw o weledigaethau syfrdanol a groniclir yn llyfr olaf y Beibl, Llyfr y Datguddiad.
Mwy syfrdanol na dim, cawn ddau heb goleg o gwbl.
Pan adroddwyd ar 1997/98 flwyddyn yn ôl roedd yn anodd gwybod sut y byddem yn cyflawni cymaint yn ystod y 12 mis ar ôl y digwyddiadau syfrdanol hynny - yr Etholiad Cyffredinol, y refferendwm datganoli a marwolaeth Tywysoges Diana.
Ar waethaf y datblygiadau syfrdanol ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, yr un yw'r natur ddynol o hyd ac mae'r gred fod anlwc a ffawd yn rheoli ein bywydau yn dal mor gryf ag erioed.
Yn yr entrychion roedd llais hon yn syfrdanol ac yr oedd y rhaglen wedi ei dewis i sicrhau ein bod ni i gyd yn ymwybodol o hynny.
Diolch i Ti am bopeth byw, am anifeiliaid ac adar, am ymlusgiaid a phryfetach ac am amrywiaeth syfrdanol y rhywiogaethau.
Awdl delynegol ei naws, a rhai cwpledi ac englynion syfrdanol ynddi o ran crefft a chynnwys.
Syfrdanol hefyd yw adroddiad Syr Thomas Wyn, Glynllifon, Archwiliwr Cyfrifon Cymru wedi i'r Llywodraeth gymryd gofalaeth Ystad y Goron.
Doeddwn i ddim yn bwriadu sôn o gwbwl am ddigwyddiad pwysicar wythnos - y darganfyddiad syfrdanol fod gan Judy Finnigan ddwy fron.
Mae'r ffaith bod pum mil o filiynau o adar yn mudo o Affrica i Ewrob bob Gwanwyn yn syfrdanol ac yn rhoi gwedd newydd ar y pwnc.
Bodlonwn yn hytrach ar edrych i fyny a mwynhau'r mawredd syfrdanol, heb yngan yr un gair, fel y gwnes i neithiwr.
Perfformiadau llawn asbri, wediu recordion syfrdanol. Yorkshire Post (David Denton), Mehefin 1999, adolygiad o GD Cerddorfar BBC/Hickox/Rubbra.
Thema'r gwasanaeth oedd 'Bywyd cyn Marwolaeth' ac roedd gan Mr Hughes ystadegau syfrdanol i ddangos sut mae'r Trydydd Byd yn cael ei ddefnyddio gan wledydd y Gorllewin i wneud elw afresymol o fawr iddynt hwy eu hunain.
Maen nhw'n dal i gredu ym metamorffosis y teigr-ddyn sy'n cuddio yn ei ogof pan ddigwydd y trawsffurfiad syfrdanol.
Newydd syfrdanol, a nodaf yr union amser fel y gwnaeth llawer ohonom pan gyhoeddwyd llofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy.
I label Topsy mae'r diolch am yr EP yma ac mae'r gwahaniaeth rhwng Clockwork a Topsy Turvy yn syfrdanol.
Byddwn yn treulio llawer o amser yn nhy fy nain.Dywedodd hi rywbeth syfrdanol wrthyf flynyddoedd ynghynt wrth fy nghymell i fwyta 'Bwyta di ddigon y ngwas i' meddai 'i ti gael cefn cry; fydd dy dad ddim yn fyw yn hir iawn eto, ac mi fydd yn rhaid iti helpu dy fam' Cawsai fy Nhad lwch ar ei frest ac 'roedd yn ddifrifol o fyglyd.
Syfrdanol, ac mae llawer o waith ymchwil wedi ei wneud i drio darganfod sut yn y byd mae'r adar yn medru gwneud y fath beth.
Credwn ei fod yn bwysig mai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n rhoi arweiniad ar y mater pwysig hwn - syniad a gafodd ei ategu'n glir yn yr ymateb syfrdanol (dros gyfnod byr o amser) a gawsom i'r ddeiseb.
Er hynny, y mae'n gwbl addas fod y llyfr yn gorffen gyda bwrw golwg ar oblygiadau'r digwyddiadau syfrdanol yn nwyrain Ewrob i'n bywyd ni yng Nghymru.
Cyn i mi wneud hynny arferwn dybio fod y bardd, wrth syllu ar donnau'r môr yn torri ar graig, a hynny o bellter teg, yn sydyn wedi eu 'gweld' fel cŵn ymosodol; hynny yw, fod y ddelwedd o gŵn ysgyrnygus wedi ffrwydro i'w feddwl yn y fan a'r lle, yn syfrdanol o uniongyrchol felly.