Deuthum i Tel-abib at y caethgludion oedd wedi ymsefydlu wrth afon Chebar, ac aros lle'r oeddent hwy yn byw; arhosais yno yn eu mysg wedi fy syfrdanu am saith diwrnod.
Y bore y clywsom am farwolaeth Tom yr oeddem ein dau - dau o flaenoriaid iau yr Eisteddfod - yn ystafell Bedwyr yn y Coleg, wedi'n syfrdanu gan y newyddion am ei ddamwain angheuol.
'Yn ôl,' meddai Pedr, 'mae y Meistr wedi dweud wrthyf am fynd.' Aeth Iago yn ôl at y disgyblion yn bur ddistaw, a moryn mawr yn dod wedyn ac yn taro'r hen gwch nes ei hanner syfrdanu.
Hynny sy'n cyfareddu ac yn syfrdanu dyn.
Ac roedd pawb wedi eu syfrdanu/ pan welsant ei bod yn gwisgo dillad lleidr pen ffordd." Rhoddodd y Llewod ochenaid hir wedi gwrando ar Guto Hopcyn yn adrodd yr hen stori.
Neidiodd Ernest, gan ddisgyn yn daclus i'r man lle dylasai, ac yn y funud yr oedd ei gydymaith wedi gwneud yr un peth, a disgynnodd y ddau o'u cyfrwyau i helpu Harri, druan, a oedd wedi ei syfrdanu, ac yn gweld pob man yn troi o'i gwmpas.
Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.
Ychwanegodd iddo gael ei syfrdanu gan yr ymateb i hysbyseb a roddodd mewn papur lleol a'i fod yn hapus iawn gyda faint ddaeth i'r cyfarfod cyntaf yn Ionawr a'r ymateb anhygoel a gafwyd ar gyfer noson Gwyl Dewi.
Gadawodd y dynion eu gorsafoedd a'u gweithdai yn llu, gan syfrdanu'r cyflogwyr, y Llywodraeth, y wasg, a'r undebau hyd yn oed, mor selog oedd eu hymateb i'r alwad.
Roedd pawb wedi cael eu syfrdanu wrth weld y rhyfeddod hwn, a rhuthrai pobl i Gaeredin nid yn unig o bob rhan o Brydain i syllu ar y cloc rhyfeddol hwn ond hefyd deuant o bob rhan o'r byd i ddysgu sut oedd creu yr un fath o beth yn eu gerddi nhw.
Ond dyma beth sydd wedi fy syfrdanu - dau o weinidogion y goron yn haeru ar y teledu fod mwyafrif poblogaeth y deyrnas yn ei erbyn.