Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

syllodd

syllodd

Syllodd y ffrindiau ar y chwilen yn chwifio'i theimlyddion yn gyffrous a'u gwylio'n troi'n goch gan ddicter!

Syllodd arno'n wynebgaled.

Syllodd Jean Marcel yn hir ar y miloedd o blu eira yn disgyn yn ysgafn ar bennau ei gydwladwyr, ac atgasedd tuag at y Maer yn cynyddu yn ei galon wrth iddo wrando'i eiriau.

Syllodd y milwyr ar ei lygaid hanner agored ac ar y fwyall a gariai ar ei ysgwydd.

Syllodd Ffredi a Gethin yn gegrwth ami.

Daeth y meddyg, syllodd yn drist arni a daeth ataf i ystafell arall gan ddweud: Mae'n ofnadwy o ddrwg gennyf am hyn ond peidiwch â disgwyl medru cadw'r beth fach lawer yn hwy." "Fedrwch chi ddim rhoi rhywbeth bach i godi ei stumog?" gofynnais ymhen ysbaid.

Edrychodd, syllodd, craffodd Dan arno, ond nid wylodd o'i blegid.

Syllodd y ddau ar ei gilydd.

Mae hwnnw wedi gadael blas pleserus yn fy ngheg i, os na wnaeth dim arall.' Am rai munudau, syllodd Lisa ar ei ôl.

Syllodd ei mam arni heb gariad.

Syllodd Ibn i'r goedwig ar y naill du a thybiodd iddo weld rhywun yn llechu yno ond ni allai fod yn hollol siwr.

Syllodd Ibn o'i amgylch ar y pentre.

Clywodd sŵn carreg yn atseinio yn erbyn carreg a syllodd ar y corachod.

Syllodd Ibn allan i'r môr mawr ond doedd dim golwg o'r llong chwaith.

trodd e ei ben yn sydyn a syllodd ar wyneb y ferch.

Syllodd Ffredi ar y chwilod i wneud yn siŵr nad oeddynt am ymosod arnynt, ac yna aeth draw i helpu Gethin.