Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sylltau

sylltau

Mae'n hollol wir na wrthododd hithau roi croeso i bob math ar ymwelwyr, a i bod yn dal i wneud hynny, gan fod sylltau'r Portobello Road yn union yr un fath â rhai Knightsbridge pan gyrhaeddant goffrau'r gorfforaeth.

Oddieithr ychydig sylltau a oedd yn rhydd yn fy mhoced, yr oedd yr holl arian a feddwn yn fy mhwrs.

Dangosodd Cathyr yr holl offer soffistigedig oedd ar y dec i Anna, yn glociau mawr cyflymder, cwmpawdau electronig a'r offer hunan-lywio, y cyfan yn sgleinio fel sylltau.

Eithr heno, wrth syllu i fyw llygad y fenyw-ddweud- ffortiwn hon ni chanfyddai Wil ddim oll namyn hen ddynes dlawd a diymadferth yn ceisio crafu ychydig o sylltau at ei gilydd drwy adrodd chwedlau ystrydebol a threuliedig wrth hen ferched anymwthgar ac wrth wŷr gweddw go deimladwy.

Arferai Hugh Owen Talgwyn Isaf gario "visitors" o Lerpwl, Manceinion a Chaer yn ei "waggonett" dau geffyl o Stesion Pentraeth i'r Traeth Coch am ychydig sylltau, a'r un modd o'r Benllech gan fod tua hanner milltir i'r pentre pryd hynny, ond sydd erbyn hyn yn dref reit dda.