Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sylwai

sylwai

Mentrodd ambell un ofyn iddi yn chwareus wrth fynd heibio, "Morfudd, Morfudd, beth wyt ti'n ei wneud â'r holl wlân yna?" Chwerthin yn amwys fyddai hi wedyn, heb godi'i phen a heb roi'r gorau i drotian, ond sylwai rhai ar wawr o dristwch yn ei llygaid.

Ni ddywed y ferch ifanc ddim, ac fe sylwai'r gyrrwr natur welw iawn y ferch, yn llwydaidd a blinedig.

Roedd hi mewn tymer mor wyllt ar y dechrau fel mai prin y sylwai ar yr hyn oedd yn digwydd yn y sedd gefn nac yn y byd oddi allan i'r car bach coch, ac fe'i cafodd ei hun rai milltiroedd o'i chartref, yn teithio ar gyrion Llundain, cyn i'w thymer ostegu digon iddi sylwi ar ddim.