Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sylweddolodd

sylweddolodd

Sylweddolodd Lingen fod tebygrwydd mawr rhwng yr ysgolion o dan adain y gweithiau diwydiannol newydd a'r hen ysgolion plwyf, gan fod y gweithiau, fel y sylwodd mewn cymhariaeth drawiadol, wedi cymryd lle'r hen faenor gynt.

Fe sylweddolodd yr un eiliad mor llwglyd a sychedig yr oedd yntau erbyn hyn.

Ond wedi i'r llong angori ger Inis Mo/ r, sylweddolodd D ilys fod rhaid mynd mewn cwch bach i'r lan ac roedd hynny'n codi braw arni.

Pan welodd ddau rwystr metel uwch ei ben sylweddolodd pe bai ef yn ymestyn ei gorff rhyngddyn nhw buasai'n gallu bod yn `bont' y gallai pobl gropian drosti i ddiogelwch.

Sylweddolodd Louis fod rhywbeth wedi digwydd ynglŷn â'r cŵn.

Tua'r un adeg sylweddolodd Roger Fox, Cyfarwyddwr Cymdeithas Ddrama Cymru, fod angen cryn dipyn o genhadu ymysg y cwmni%au amatur Cymraeg ac mai prin iawn oedd aelodaeth Gymraeg y Gymdeithas.

Yn fuan sylweddolodd eu bod yn siarad iaith ddieithr!

'O?' 'Efo Ifan Paraffîn, yn y bus.' ''Ron i'n meddwl 'mod i'n gweld gola' ac yn clywad rhyw swn pan o'n i'n cau ar yr ieir.' Sylweddolodd Dora Williams ei bod hi'n sefyll yn llond y ffenestr yn ei choban, yn wyneb llafn o olau lleuad, a theimlodd ei hun yn cael ei dadwisgo'n gyflym.

Rwy'n cofio i griw ohonom, bechgyn ysgol gan fwyaf, dyrru i'w wrando un nos Sul, a buan iawn y sylweddolodd yr hen wag fod croeso iddo amlygu ei arabedd, ac i fynd rhyw flewyn bach dros ben llestri hyd yn oed.

Sylweddolodd Jock a minnau mai un o'r sefydliadau 'milwrol' hyn oedd yr adeilad yng nghwr yr iard.

Fe sylweddolodd yn syth mai diffyg yr elfen hanfodol copr oedd wrth wraidd yr helynt.

Sylweddolodd mai un enghraifft ymysg miliynau oedd ei thrallod hi.

Unwaith y sylweddolodd na fyddai'n gallu dychwelyd i'w gwaith ar y dyddiad a drefnwyd, cysylltodd â chynifer o'i chyflogwyr ag y gallai i ymddiheuro, ac i gwyno am ei merch or-ofalus.

'Ydi hynna yn brifo eich teimladau chi am gydraddoldeb?' Sylweddolodd yn sydyn beth oedd hi'n ei wneud.

'Roedd o hefyd wedi gweld problem diboblogi a sylweddolodd fod y ddinas yn annog ieuenctid Cymru.

Yn sgil y cawdel a ddigwyddodd ynglŷn â phenodi Cyfarwyddwr Addysg dros-dro yn Sir Gâr, sylweddolodd Rhanbarth Caerfyrddin fod angen symud ymlaen o'r ddadl ynglŷn â'r penodiad unigol hwnnw at faes polisi sylfaenol a fyddai'n creu newid tymor hir yn natur y Cyngor Sir.

Sylweddolodd Rhys fod dau fachgen bach o'r dosbarth cyntaf wedi bod yn eu gwylio.

Sylweddolodd Denzil mewn pryd fod Dic yn ei dwyllo a diflannodd Dic gydag arian til y siop yn ei boced.

Roedd y ddau wedi cuddio'n dawel yn y gwait yn y stabl, ac roedd he bron yn hanner nos pan sylweddolodd y rhieni beth oedd yn digwydd.

Pan ddaeth amser cychwyn sylweddolodd arweinwyr a swyddogion y Cyngor nad oedd ganddynt fwyafrif.

Yna sylweddolodd mai ei hunanoldeb hi a barai iddi hi goleddu'r fath deimladau a dywedodd wrth ei Duw mewn gweddi fer, "Arglwydd, Ti sydd biau'r plant a'u cwrls.

Sylweddolodd nad arwynebol mo'r gwendid.

O'r holl siom a phoen a brofodd y tri ohonynt ers iddynt lanio, ni sylweddolodd yr un ohonynt y posibilrwydd hwn.

Yn sydyn sylweddolodd nad oedd y drws yn cau yn hollol dynn a bod rhimyn melyn o olau yn dod i mewn drwy'r agen fechan oedd rhwng y ddau drws.

Sylweddolodd nad oedd erioed wedi eu dysgu sut i weddi%o.

Sylweddolodd fod byw mewn cymdeithas o'r fath yn gadael llawer o gyfrifoldeb yn nwylo'r llenor unigol a'i ofn oedd y buasai caniata/ u i bob unigolyn ddilyn ei drywydd ei hun yn arwain at anarchiaeth a diffrwythdra.

A dyna pryd y sylweddolodd beth oedd yn bod.

Sylweddolodd y dyn ifanc ei fod yntau, fel ei dad, yn dechrau siarad hefo'r anifeiliaid fel pe byddent yn bobl, ac fel pe bai'n disgwyl iddyn nhw ei ateb.

Beudy'r Gors.' Sylweddolodd 'rhen ferch faint ei chamgymeriad a cheisiodd adfeddiannu'r tir a gollwyd drwy roi ymosodiad ar William Huws, druan.

Hyd at yr adeg yma arferai gredu mai hi oedd piau'r pethau ychwanegol a ddeuai gyda'r defnyddiau ond yn awr sylweddolodd y byddai'n lladrata wrth fynd â'r bluen, ac er i'r bluen fod yn demtasiwn fawr iddi'r bore hwn, rhoes heibio'r arferiad.

Yna, sylweddolodd yr ymchwilwyr nad afiechyd yn effeithio ar un dosbarth arbennig o'r boblogaeth yw AIDS, ond afiechyd a all effeithio ar unrhyw un a gaiff ei heintio â gwaed neu hylifau corfforol heintiedig eraill.

Yn Efrog Newydd y sylweddolodd gymaint oedd ei awydd i berthyn i grwp roc pan oedd yn ei arddegau yng Nghymru.

Felly, pan sylweddolodd yn hwyr un noson iddo adael ei waled yn llawn o arian ar ben postyn llidiart buarth tyddyn anghysbell yng nghyffiniau Llynnoedd Teifi ar noson o eira ar drothwy'r Nadolig doedd ganddo fe ddim dewis.

Bron yn ddiarwybod iddo'i hun yr oedd yn hebrwng y ferch adref, a phan sylweddolodd beth yr oedd yn ei wneud profodd don o letchwithdod yn dod drosto, yn cael ei dilyn gan don gryfach o hunanbwysigrwydd.

sylweddolodd y crwydryn.

Yna'n sydyn sylweddolodd faint ei dibyniaeth ar ei thad.

Ar drothwy'r grisiau, sylweddolodd Gethin unwaith eto pa mor bell o'r ddaear yr oeddynt, a dechrau siglo'n benysgafn.

Beti, Beti dere'n ôl!' Deuai ei eiriau ati dros affwys tywyll, yna sylweddolodd pwy ydoedd, ei wyneb rhychiog yn ddagrau i gyd.

Sylweddolodd J. M. Edwards fod dyn bellach yn defnyddio technoleg newydd yr oes i greu dinistr ar raddfa eang, a chyfeirir at yr awyrennau bomio ynddi.

Sylweddolodd gydag arswyd mai esgyrn oedd y rhain.

Ond wrth ysbeilio'r corff fe sylweddolodd ei fod wedi lladd ei frawd ei hun ac mewn pwl o edifeirwch fe laddodd ei hunan hefyd.

Dyna pryd y sylweddolodd y gŵr penllwyd fod rhywun heblaw ei wraig gydag ef yn y caban.

Ar ôl mynd allan i'r oerni, sylweddolodd ei fod wedi gadael ei gôt ledr yn y tŷ bwyta.

Roedd hi'n dywyll tu allan nawr a sylweddolodd ei fod wedi treulio prynhawn cyfan arall yn y gorffennol gyda'i atgofion.

Wedi mynd yn ôl i Loegr sylweddolodd mai diffyg adnabod ei gilydd oedd rhyngddo ef ac S.; cynhesodd ato; a dyma'r pryd y sgrifennodd y gerdd 'Adnabod'.

Dôi sŵn chwyrnu uchel o rywle, a sylweddolodd mai yn yr ystafell y safai ef wrthi y canai'r utgorn.

Yna, sylweddolodd fod un o'r bobl oedd arni wrthi'n chwifio'i freichiau'n wyllt, i dynnu'u sylw nhw.

Sylweddolodd hyn, ac aeth yn ôl at 'i ffrindiau, y disgyblion, a dw i'n siwr fod Tomos, er gwaetha'r sioc ofnadwy o golli'r Iesu, 'i fod am glywed gan y disgyblion eu bod nhw wedi gweld yr Iesu atgyfodedig.

cafodd williams gryn drafferth i ddeall stori 'r bechgyn gan mor fyr o wynt oeddynt, ond synhwyrai fod rhywbeth mawr wedi digwydd, ac yn raddol sylweddolodd fod ganddo, o bosibl, drychineb ar ei ddwylo ddwylo pwy ydi 'r ffred 'ma?

Am eiliad ni sylweddolodd pwy oedd yno.

Wedi'r cwbl, rheolwr ydach chithau, a sbiwch ar y gwahaniaeth rhyngom ni.' Cyn gynted ag y gwelodd ei wên ddiog, sylweddolodd ei bod wedi dweud y peth anghywir.

Sylweddolodd mai ysgyfarnogod oedd yn peri'r golled a gosodwyd maglau yn y gwrych terfyn.

Sylweddolodd ei fod gannoedd o filltiroedd o Ogledd Cymru ac yn nwylo pobl ddrwg.

Buan iawn y sylweddolodd Denzil a Maureen eu bod wedi priodi am y rheswm anghywir, sef i roi cartre i Gwen, merch Gina, a gadawyd Denzil ar ei ben ei hun unwaith eto ym mis Gorffennaf 1999 pan adawodd Maureen ef.

Ac ar ei waethaf sylweddolodd iddo ar ambell egwyl ddistaw fod yn gweddio'n fyr ac yn gryno am gael y cyfle, y fraint ysbrydol, bron, o ddileu'r ymosodiadau gwaedlyd hyn.

Ar ôl perthynas fer gyda Menna, sylweddolodd Derek ei fod mewn cariad â Karen a phriododd y ddau yn haf 1997.

Sylweddolodd seryddwyr tua dwy ganrif yn ol fod ein Haul yn rhan o alaeth fawr.

Cyhoeddodd Lewis Valentine ei ymddiswyddiad fel llywydd y Blaid, ac etholwyd Saunders Lewis yn ei le, i swydd lle medrodd ddylanwadu mwy nag y sylweddolodd ar Gymru fodem, er i raddau llai nag y gobeithiodd ef ei hun.

Gwasgodd Del ei dwylo am ei bochau pan sylweddolodd mai ceisio dal Fflwffen oedd y lleidr.

tra eisteddai 'n amyneddgar yno y sylweddolodd mor uchel a ffyrnig oedd yr afon, a phenderfynodd fynd i ben y bont i edrych arni.